Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi chwe rhybudd am lifogydd yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr.
Mae 19 o negeseuon pellach am lifogydd hefyd wedi’u cyhoeddi yn y siroedd hynny a Cheredigion.
Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i alwadau yn ardaloedd Saundersfoot, Porth Tywyn ac Abertawe heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn rhybuddio hefyd am amodau gyrru gwael yn ne Sir Benfro.
Mae’r rhybuddion sydd wedi’u cyhoeddi yn weithredol yn yr ardaloedd canlynol:
- Solfach
- Y Gwendraeth Fawr ym Mhontyberem
- Afon Hydfron yn Llanddowror
- Y Gwendraeth Fawr ym Mhont-iets a Phont-henri
- Afon Dulais ym mhentref Pwll
- Llanilltud Gŵyr