Mae prif ymchwilydd brechlyn coronafeirws Prifysgol Rhydychen yn dweud bod tebygolrwydd “eithaf uchel” y bydd y brechlyn ar gael cyn diwedd y flwyddyn.

Yr Athro Sarah Gilbert o’r brifysgol sy’n arwain yr ymchwil, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n bwysig fod mwy nag un brechlyn ar gael er mwyn trechu’r feirws.

Dydy brechlyn AstraZeneca ddim wedi cael ei gymeradwyo yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn, wrth i’r MHRA barhau i ddadansoddi’r data.

Dim ond brechlyn Pfizer sydd wedi cael ei awdurdodi hyd yn hyn.

“Dw i’n credu bod y tebygolrwydd yn eithaf uchel,” meddai Sarah Gilbert wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Ond mae angen brechlynnau niferus arnom, mae angen brechlynnau niferus ar bob gwlad, mae angen brechlynnau niferus ar y byd, ac mae angen brechlynnau arnom sydd wedi’u gwneud gan ddefnyddio technolegau amrywiol, os yw hynny’n bosib.”

Treialon

Mae AstraZeneca bellach yn rhan o dreialon sy’n ceisio darganfod a oes modd cyfuno’r brechlyn hwnnw â brechlyn Sputnik V Rwsia.

Mae Sputnik V bellach ar gael i bobol fregus yn Rwsia ar ôl i lywodraeth y wlad roi sêl bendith iddo ym mis Awst.

Ond degau yn unig o bobol oedd yn rhan o’r treialon.

Er y gallai gynnig mwy o amddiffyniad yn erbyn y coronafeirws, mae Sarah Gilbert yn dweud y byddai angen ei ystyried yn fwy gofalus o lawer cyn ei ddefnyddio ar y cyd â brechlynnau eraill.

Mae data yn awgrymu bod brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn 62% yn effeithiol wrth roi un dos ar ôl y llall, ond fod hanner dos ac yna ddos llawn fis yn ddiweddarach yn codi ei effeithiolrwydd i 90%.

At ei gilydd, mae’r ddau frechlyn yn 70% yn effeithiol.

Mae gan wledydd Prydain 100 miliwn dos o’r brechlyn Rhydychen/AstraZeneca eisoes.