Mae Jeremy Corbyn wedi cyhoeddi cynllun i lansio mudiad newydd i gefnogi cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a hawliau dynol yng ngwledydd Prydain a ledled y byd.

Bydd ei Brosiect Heddwch a Chyfiawnder yn “tynnu pobol ynghyd” i greu “dyfodol sy’n gweithio i’r mwyafrif, nid y lleiafrif”.

Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn aelod seneddol annibynnol ar hyn o bryd yn dilyn ffrae ynghylch ei ymateb i adroddiad gwrth-Semitiaeth y blaid.

Mae disgwyl iddo lansio’i brosiect newydd fis nesaf, pan fydd digwyddiad panel ar y we yn cynnwys Christine Blower o’r Blaid Lafur, ysgrifennydd cyffredinol Unite Len McCluskey a’r aelod seneddol Llafur Zarah Sultana.

Mae lle i gredu mai trechu tlodi, anghydraddoldeb a grym corfforaethol fydd prif flaenoriaethau’r mudiad.

Ymateb Jeremy Corbyn

“Mae yno i greu gofod, gobaith a chyfle i’r sawl sy’n ymgyrchu tros gyfiawnder cymdeithasol a dyfodol sy’n gweithio i’r mwyafrif ac nid y lleiafrif,” meddai Jeremy Corbyn am y mudiad newydd.

“Byddwn yn cydweithio ag undebau a mudiadau cymdeithasol i adeiladu rhwydwaith o ymgyrchwyr, ymgyrchwyr ar lawr gwlad, rhai sy’n meddwl ac arweinwyr, i rannu profiadau a chreu syniadau ynghylch datrysiadau i’n problemau cyffredin.

“Byddwn yn cyfuno ymchwil a dadansoddiad ag ymgyrchu a threfnu.

“A gallwn adeiladu ar y polisïau sosialaidd poblogaidd a gafodd eu datblygu yn y Blaid Lafur dros y bum mlynedd diwethaf.

“Eleni, mae nifer ohonom wedi teimlo’n ddi-rym yn wyneb grymoedd y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Does dim angen iddi fod felly.

“Gall pethau newid, ac mi fyddan nhw’n newid.”