Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi atal Boris Johnson, prif weinidog Prydain, rhag cynnal trafodaethau ag Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, ac Angela Merkel, Canghellor yr Almaen.
Daw’r newyddion ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi’n annhebygol y bydd bargen Brexit heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13), y dyddiad a gafodd ei bennu er mwyn dod i gytundeb cyn y byddai’n rhaid i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Yn dilyn trafodaethau rhwng Boris Johnson ac Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, fydd dim rhaid bellach i Brydain ddod i gytundeb heddiw wedi’r cyfan.
Ond mae gweinidigion yn dweud ers rhai diwrnodau y byddai angen datrysiad gwleidyddol i’r gwahaniaethau sydd o hyd rhwng safbwyntiau Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Cynigiodd Boris Johnson yr wythnos diwethaf y byddai’n barod i deithio i brifddinasoedd Ewrop i gynnal trafodaethau.
Ond mae’n dweud erbyn hyn na chafodd e ganiatâd yr Undeb Ewropeaidd i siarad ag Emmanuel Macron nac Angela Merkel, dau arweinydd sy’n cael eu hystyried yn allweddol i geisio datrysiad i’r sefyllfa er mwyn cael taro bargen.
‘Dw i wedi ailadrodd fy nghynnig’
“Dw i wedi ailadrodd fy nghynnig, sef pe bai angen siarad â phrifddinasoedd eraill, y byddwn i’n fodlon iawn gwneud hynny,” meddai Boris Johnson yn Downing Street.
“Mae’r Comisiwn yn benderyfnol iawn o gadw’r trafodaethau fel y buon nhw, rhyngom ni a’r Comisiwn. Mae hynny’n iawn.”
Mae gan Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, berthynas agos ag Angela Merkel, ar ôl i’r ddwy gydweithio yn Llywodraeth yr Almaen.
Mae Emmanuel Macron yn cael ei ystyried yn allweddol i unrhyw gyfaddawd ynghylch pysgodfeydd, ac mae wedi bygwth sawl gwaith y byddai’n barod i atal unrhyw gytundeb masnach ar sail cwotâu pysgota.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae darbwyllo arweinwyr Ffrainc a’r Almaen yn fwy tebygol o ddwyn ffrwyth na’r trafodaethau rhwng y prif drafodwyr.
Mae’r Arglwydd Frost a Michel Barnier, y ddau brif drafodwyr, yn parhau i drafod y sefyllfa ym Mrwsel heddiw.
Tri chynnig i Boris
Roedd y Telegraph yn adrodd yr wythnos ddiwethaf fod Boris Johnson wedi cael ei atal dair gwaith rhag siarad ag Emmanuel Macron ac Angela Merkel.
Cafodd y posibilrwydd ei godi yn ystod cinio rhwng Boris Johnson ac Ursula von der Leyen ddydd Mercher (Rhagfyr 9).
Mae lle i gredu bod Ursula von der Leyen wedi dweud bod croeso i Boris Johnson godi’r mater, ond ei bod hi’n gwybod y byddai’r cais yn cael ei wrthod.