Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i beidio â phentyrru nwyddau mewn panig os na fydd bargen Brexit.

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain, mae siopau’n archebu nwyddau ychwanegol er mwyn sicrhau bod digon o gyflenwadau o gynnyrch hanfodol ganddyn nhw.

Ond gallai unrhyw effaith ar y gadwyn fwyd effeithio cynnyrch fel ffrwythau a llysiau ffres nad oes modd eu storio am gyfnodau hir o amser.

Heb gytundeb, bydd cwmseriaid yn wynebu prisiau uwch a thariffau o fwy na £3bn drwy gydol y flwyddyn nesaf, meddai’r Consortiwm.

Maen nhw’n dweud bod yr ansicrwydd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i fusnesau baratoi.

‘Trosglwyddo costau ychwanegol’

“Fyddai gan fanwerthwyr ddim dewis ond trosglwyddo peth o’r costau ychwanegol hyn ymlaen i’w cwsmeriaid, a fyddai’n gweld prisiau uwch yn dod drwodd trwy gydol 2021,” meddai Helen Dickinson, prif weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain.

“Ymhellach, bydd gwiriadau a thâp coch newydd a fydd yn berthnasol o Ionawr 1 yn creu baich ychwanegol i fanwerthwyr a’u cwsmeriaid.

“Mae manwerthwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i baratoi ar gyfer pob canlyniad, yn cynyddu stoc tiniau, papur tŷ bach a chynnyrch oes hir arall fel bod digon o gyflenwadau o gynnyrch hanfodol.

“Tra na all unrhyw faint o baratoi gan fanwerthwyr osogi aflonyddwch yn llwyr, does dim angen i’r cyhoedd brynu mwy o fwyd nag arfer gan y bydd y brif effaith ar gynnyrch ffres sy’n cael ei fewnforio, megis ffrwythau a llysiau ffres nad oes modd eu storio am gyfnodau hir gan fanwerthwyr na chwsmeriaid.

“Gyda chyllid nifer o bobol eisoes dan straen yn sgil effaith economaidd y coronafeirws, all aelwydydd ddim fforddio cynnydd sylweddol mewn prisiau bwyd.

“Er lles cwsmeriaid a busnesau ledled y Deyrnas Unedig, mae angen cytundeb arnom yn ystod y tair wythnos nesaf.”