Mae Plaid Cymru’n galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i gyfaddawdu er mwyn taro bargen Brexit a gwarchod swyddi pobol.

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, mae Boris Johnson yn “chwarae â swyddi pobol”.

Fe fydd y trafodaethau rhwng trafodwyr Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau, er mai heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13) oedd y dyddiad olaf a gafodd ei glustnodi ar gyfer taro bargen cyn y daw’r cyfnod pontio i ben ar Ragfyr 31.

“I fusnesau ledled Cymru, mae’r ansicrwydd ynghylch natur y masnachu â’n partner masnachu mwyaf ar yr adeg hwyr iawn hon yn annerbyniol,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Rydym yn wynebu aflonyddwch enfawr, gyda phrisiau bwyd yn codi a phrinderau posib ymhen dim ond 18 o ddiwrnodau.

“Mae’r prif weinidog yn chwarae â swyddi pobol, ac mae’n ymddangos nad yw’n sensitif i’r niwed mae ei chwarae ar y dibyn yn ei achosi.

“Mae amser o hyd i gynnig cyfaddawd aeddfed cyn yr wythnos nesaf.

“Mae ein ffermwyr, gweithgynhyrchwyr, porthladdoedd ac eraill yn dibynnu arno i ddangos arweiniad.

“Hyd yn hyn, mae o wedi bod yn ddiffygiol, ac fe fu ganddo fwy o ddiddordeb mewn ffwblri nag ymladd er lles ein buddiannau ni.”