Mae sawl achos positif o’r coronafeirws ymhlith staff a phreswyliaid cartref gofal yn Aberaeron, yn ôl Cyngor Sir Ceredigion.

Mae aelodau o staff a phreswyliaid Min y Môr yn cael eu monitro ar hyn o bryd, ac mae’r Cyngor Sir yn cydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae teuluoedd y rhai sydd wedi’u heffeithio wedi cael gwybod, a bydd y cartref yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

“Mae gofalu am drigolion ein cartrefi gofal o’r pwysigrwydd mwyaf i Gyngor Sir Ceredigion,” meddai’r Cyngor Sir mewn datganiad.

“Mae ymweliadau â Chartrefi Gofal yng Ngheredigion yn parhau i gael eu hatal ac mae preswylwyr yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau dros y ffôn a galwadau fideogynadledda / skype.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y cydweithrediad a ddangoswyd gan staff, preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel ac yn iach.”

Trefniadau

Dywed y Cyngor Sir fod trefniadau yn eu lle “i alluogi teuluoedd, ffrindiau ac ewyllyswyr da adael anrhegion ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal Ceredgion mewn lleoliadau cymunedol ledled y sir”.

Mae modd gadael anrhegion yn y lleoliadau canlynol hyd at Ragfyr 19:

  • Llyfrgell Aberystwyth– 10am-12pm & 1pm-4pm
  • Llyfrgell Aberaeron – 10am-12pm & 1pm-4pm
  • Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan – 10am-1pm & 2pm-4pm
  • Llyfrgell Aberteifi – 10am-1pm & 2pm-4pm

Ac yn:

  • Neuadd Goffa Tregaron rhwng dydd Mawrth 15.12.2020 a dydd Iau 17.12.2020 – 2pm-4pm, ac ar ddydd Llun 21.12.2020 – 4pm-6pm

Ond maen nhw’n dweud nad oes modd derbyn bwydydd wedi’u coginio gartref na blodau neu blanhigion.

“Cofiwch hefyd nodi enw’r preswylydd, enw’r cartref ac oddi wrth bwy y mae’r rhodd, ynghyd â rhif ffôn cyswllt, ar eich parsel,” meddai’r datganiad wedyn.

Mae’r Cyngor Sir yn parhau i atgoffa pobol i gadw pellter, golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb os nad oes modd cadw pellter.

“Mae’n rhaid i bawb sy’n datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, a’r unig adeg y dylent adael eu cartrefi yw er mwyn cael prawf,” meddai wedyn.