Fe fydd trafodaethau Brexit yn parhau er gwaetha’r terfyn amser a gafodd ei osod ac sy’n dod i ben heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).
Dywed Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, ei bod hi a Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi rhoi mandad i drafodwyr barhau i geisio taro bargen.
Dywed ei bod hi wedi cael “galwad ffôn adeiladol a defnyddiol” gyda Boris Johnson.
“Fe wnaethon ni drafod y pynciau mawr sydd heb eu datrys,” meddai.
“Mae ein timau negodi wedi bod yn gweithio dydd a nos dros y diwrnodau diwethaf.
“Ac er gwaetha’r blinder mawr, ar ôl bron i flwyddyn o drafodaethau, ac er gwaetha’r ffaith fod ein terfynnau amser wedi’u colli dro ar ôl tro, rydym ein dau yn credu mai’r peth cyfrifol ar hyn o bryd yw mynd y filltir ychwanegol.
“Rydym felly wedi rhoi mandad i’n trafodwyr barhau â’r trafodaethau a gweld a oes modd dod i gytundeb, hyd yn oed yn y cyfnod hwyr hwn.”
Dywed fod y trafodaethau’n “parhau yma ym Mrwsel”.