Mae dynes 38 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ardal Gabalfa yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r drosffordd am oddeutu 2.45 fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).

Bu’n rhaid cau’r ffordd am oddeutu pum awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod, ond dydy’r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.