Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn dweud y byddan nhw’n cau o yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14) “oherwydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru”.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad hefyd “er mwyn amddiffyn ein staff, ymwelwyr a’r boblogaeth ehangach”.
Daw’r cyhoeddiad ar drothwy cyhoeddiad ynghylch camau nesaf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws, wrth i nifer yr achosion a marwolaethau barhau i godi.
Mae mwy na 100,000 o bobol yng Nghymru bellach wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r prif weinidog Mark Drakeford rybuddio y gall fod angen rhagor o gyfyngiadau cyn y Nadolig er mwyn lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Y perygl go iawn yma yw ein bod ni’n trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wasanaeth coronafeirws cenedlaethol,” meddai wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.
‘Gardd ar gau’
“Gyda thristwch mawr, bydd yr Ardd Fotaneg ar gau o ddydd Llun, 14eg o fis Rhagfyr,” meddai neges ar eu gwefannau cymdeithasol.
“Mae argyfwng Covid-19 wedi effeithio bob un ohonom, ac rydym wedi gorfod cau oherwydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, hefyd er mwyn amddiffyn ein staff, ymwelwyr a’r boblogaeth ehangach.
“Ar hyn o bryd, nid yw’n eglur pryd y byddwn yn gallu ailagor.
“Byddwn yn eich diweddaru â newyddion yr Ardd ar ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
“Byddwch yn ddiogel, arhoswch adref.”