Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb “yn drychinebus i Gymru a’r Deyrnas Unedig”, yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
Fe fu’n siarad â rhaglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar Radio Cymru ar ddiwrnod ola’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rhybudd ar hyn o bryd mai gadael heb gytundeb sydd fwyaf tebygol ar ôl i’r ddwy ochr fethu â tharo bargen hyd yn hyn.
Ond mae Jeremy Miles yn dweud ei bod yn “gwbl glir fod cytundeb yn hanfodol” i Gymru.
“Mae gadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol,” meddai.
“Ac er mor wan fyddai unrhyw gytundeb ddelai ar hyn o bryd, mae’n well na dim.
“Fel llywodraeth, ry’n ni wastad wedi dweud pan mae gyda ni’r opsiynau, dylen ni ddewis y fersiwn o’r berthynas sydd agosa’ i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau gorau gallwn ni safonau’r marchnadoedd ac ati.
“Ry’n ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, y ddwy ochr a dweud y gwir, i fod yn hyblyg heddiw i sicrhau cytundeb.”
Cytundeb Awstralia
Wrth i Boris Johnson baratoi ar gyfer ymadawiad heb gytundeb, mae’n cael ei rybuddio i beidio â derbyn cytundeb tebyg i’r berthynas rhwng Awstralia a’r Undeb Ewropeaidd – cytundeb sydd, yn y bôn, yn gyfystyr â dim cytundeb o gwbl.
Yn ôl David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru, dylai Boris Johnson fargeinio tan 11 o’r gloch ar nos Galan, ond “dylai adael y bwrdd gan wybod fod ganddo fe gefnogaeth ei holl gydwladwyr”.
“Mae gadael ar delerau Awstralia fwy neu lai yn golygu gadael heb gytundeb o unrhyw fath,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’n bwysig, wrth gwrs, i edrych ar beth yw’r cyfleoedd newydd ond gadewch i ni fod yn gwbl glir.
“Y berthynas fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd yw’r flaenoriaeth. Dyna le mae’r mwyafrif o allforion ac ati o Gymru yn benodol.
“Dyna pam mae mor bwysig i sicrhau cytundeb.
“Pwrpas y peth yma oedd cymryd nôl control, felly mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud hynny, felly eu cyfrifoldeb nhw nawr yn sgil hynny yw cael cytundeb.
“Datganiadau bras gwleidyddol, rydych chi’n disgwyl hynny, ond mae’n bell tu hwnt i hynny erbyn hyn.
“Ni wedi gweld y ddadl hyn dros gyfnod hir.
“Ar ddechrau eleni, roedden ni’n clywed gan Boris Johnson fod oven-ready deal ganddo fe, ond ry’n ni’n clywed heddiw fod cytundeb yn annhebygol.
“Mae hyd yn oed Llywodraeth San Steffan yn derbyn bod addewidion wedi’u gwneud o gytundeb, ac mae’n rhaid cadw’r addewidion hynny.
“Dyw e ddim yn ddigon i ddweud bod pobol wedi pleidleisio dros adael, ry’n i’n gwybod hynny, ond ar delerau ac mae’n rhaid sicrhau bod y telerau hynny’n cael eu dylifro.
“Ga’i fod yn gwbl glir. Dw i ddim yn dweud bod y cytundeb yn gytundeb da. Ond fel rwy’n dweud, ry’n ni wastad wedi dweud bod yn well gyda ni’r fersiwn agosaf o’r berthynas ac yn anffodus, o ran y ddwy opsiwn sydd o’n blaenau ni heddiw, y cytundeb yw honno.
“Rwy’n credu mai realiti’r peth yw mai ernes fydd hon ar gyfer cytundeb gwell yn y dyfodol. Mae hynny’n gwbl sicr.
“Dyw’r cytundeb fydd yn bosib, os byddai un, jyst ddim yn ddigon da felly rwy’n credu fydd hynny’n sail ar gyfer adeiladu perthynas well yn y dyfodol.”
Dyfodol Cymru
Yn ôl Jeremy Miles, fe fydd “aflonyddwch” yng Nghymru pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
“Ry’n ni wedi bod yn dweud hynny ers y cychwyn cyntaf,” meddai.
“Felly, ein swyddogaeth ni fel llywodraeth yw paratoi gorau gallwn ni o fewn y pwerau a’r adnoddau sydd gyda ni, ac ry’n ni’n sicr bo ni wedi gwneud hynny a gweithio gyda phartneriaid eraill fel awdurdodau lleol a busnesau ac ati.
“Ond mae hefyd lot o hynny yn ddibynnol ar y camau mae’r llywodraeth yn San Steffan yn gorfod eu cymryd.
“Ry’n ni wedi bod yn cydweithio gyda nhw, wrth gwrs.
“Dyn ni ddim, fel rydych chi’n gwybod, wedi cael y lefel o gydweithredu fydden ni’n hoffi’i weld tan yn ddiweddar.
“Ond ry’n ni wedi datgan a chyhoeddi ein cynllun ni ar gyfer gadael y cyfnod pontio, ac mae’r cynlluniau hynny ar waith.
“Mae newidiadau sylweddol yn anochel, cytundeb ai peidio, yn sgil y dewisiadau gwleidyddol mae Boris Johnson wedi’u gwneud. Mae hynny yn glir.
“Mae paratoi heb eglurdeb yn beth anodd iawn i fusnesau, i fudiadau, i wasanaethau cyhoeddus ac i lywodraethau.
“Dyna pam ei bod yn hen bryd fod gyda ni eglurder ar y berthynas.”
Ail-feddwl am annibyniaeth neu Deyrnas Unedig fwy cyfartal?
Wrth ystyried sefyllfa Cymru ar ôl Brexit heb gytundeb, dywed Jeremy Miles nad yw Llywodraeth Cymru’n “amddiffyn y status quo” o ran perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig.
“Dyw e jyst ddim yn gweithio i Gymru,” meddai.
“Ry’n ni wedi bod yn galw am gyfnod hir am gynllun o ddiwygio sylfaenol i’r trefniadau gwleidyddol a chyfansoddiadol sydd gyda ni.
“Y cwestiwn yw beth yw’r newidiadau fydd yn gwneud hynny, ac ry’n ni wedi cyhoeddi polisi ar gyfer perthynas lawer mwy hafal rhwng y llywodraethau gyda mwy o ddatganoli i Gymru a mwy o bwerau yma yng Nghymru.
“Dyna ry’n ni’n moyn gweld.
“Mae gweld hyn yn digwydd yn cryfhau y galw am ddiwygio’r cyfansoddiad a’r trefniadau ar draws y Deyrnas Gyfunol.
“Mae [cynnydd yn y galw am annibyniaeth] yn ymddangos fel bod e’n digwydd gyda’r gefnogaeth i Yes Cymru, ac ry’n ni wedi gweld hynny yn digwydd.
“Ond mae angen cydnabod hefyd fod Cymru yn gydymog economaidd i Loegr, a bod hynny yn wir, p’un a ein bod ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig neu’n annibynnol.
“Mae rhai o’r cwestiynau yn codi sy’n sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ddim yn newid y realiti hwnnw.”