Mae Donald Trump wedi colli achos arall yn y llys fel rhan o’i frwydr i ddal ei afael ar arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Mae’r barnwr Brett Ludwig wedi gwrthod cais gan yr arlywydd i ystyried y canlyniad yn Wisconsin ac i gyhoeddi mai fe, ac nid Joe Biden, enillodd y ras yn y dalaith honno.

Dywed y barnwr fod dadleuon Donald Trump “wedi methu fel mater o gyfraith a ffaith”.

Daw’r dyfarniad wrth i’w gyfreithiwr frwydro achos arall yn y llys, gan ofyn iddyn nhw ddiystyru mwy na 221,000 o bleidleisiau gan bleidleiswyr absennol oedd wedi bwrw eu pleidlais ar sail cyngor diffygiol a thwyllodrus swyddogion yr etholiad.

Yn ôl barnwyr, does dim modd gwyrdroi canlyniadau mewn ardaloedd lle collodd Trump heb fod modd dileu canlyniadau mewn ardaloedd lle enillodd e, gan fod yr un prosesau wedi cael eu defnyddio drwyddi draw.

Ac mae gwrthwynebwyr Donald Trump yn dadlau mai rhesymau hiliol sydd y tu ôl i’r her gyfreithiol – pobol nad oes ganddyn nhw groen gwyn yw trwch y boblogaeth ym Milwaukee a Dane, y ddwy sir dan sylw.

Mae disgwyl i bleidleisiau deg coleg etholiadol gael eu bwrw’n swyddogol yn Wisconsin yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14), a bydd hynny’n cadarnhau mai Joe Biden sydd wedi ennill yn y dalaith.

Mae Donald Trump wedi gofyn am benderfyniad erbyn Ionawr 6, y dyddiad pan fydd Cyngres yr Unol Daleithiau’n cyfri pleidleisiau’r coleg etholiadol.