Bydd y gwaith o frechu preswyliaid cartrefi gofal yr Alban yn erbyn y coronafeirws yn dechrau yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14).

Mae staff y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn derbyn brechlyn Pfizer ers dydd Mawrth (Rhagfyr 8).

Mae mwy na 5,000 o bobol eisoes wedi cael eu brechu â’r dos cyntaf.

Yn ôl Llywodraeth yr Alban, maen nhw wedi dod o hyd i ffordd o “bacio” y brechlyn er mwyn ei gludo i gartrefi gofal – rhywbeth oedd yn ymddangos yn anodd i’w wneud cyn hyn.

Rhaid storio’r brechlyn ar dymheredd o -70 gradd selsiws ac mae modd ei gludo am hyd at 12 awr heb ei fod wedi’i rewi.

Mae sêl bendith wedi’i roi i gludo’r brechlyn ar yr amod nad yw cyflenwadau’n cael eu gwastraffu’n ormodol.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi croesawu’r newyddion bod modd cludo’r brechlyn i gartrefi gofal, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n gobeithio cael sêl bendith i ragor o frechlynnau yn y dyfodol.

Mae 23 o ganolfannau brechu yn yr Alban, ac mae gan bob bwrdd iechyd gyfrifoldeb am eu rhaglen frechu eu hunain.