Mae’r heddlu wedi rhoi’r gorau i’r ymchwiliad yn erbyn Aelod Seneddol Ceidwadol a chyn-weinidog Llywodraeth Prydain.
Roedd yr unigolyn, oedd heb ei enwi, yn wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosod yn rhywiol a rheolaeth gymhellol.
Derbyniodd Heddlu Llundain gwynion ar Orffennaf 31 mewn perthynas â phedwar digwyddiad yn Llundain rhwng Gorffennaf y llynedd a Ionawr eleni.
Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o dreisio ar Awst 1, a’i gludo i’r ddalfa yn nwyrain Llundain cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywed yr heddlu fod yr unigolyn, a’r person oedd wedi gwneud honiadau amdano, wedi cael gwybod na fydd camau pellach yn ei erbyn.
Dywed yr unigolyn oedd wedi cwyno ei bod hi’n bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Ymateb y Ceidwadwyr i’r honiadau
Roedd adroddiadau ar Awst 2 fod y Ceidwadwyr wedi cael gwybod gan ddynes am yr honiadau, ac nad oedd y prif chwip Mark Spencer wedi ymdrin â nhw.
Serch hynny, mae lle i gredu ei fod e wedi ei chynghori i gwyno’n swyddogol fel bod modd i’r awdurdodau gynnal ymchwiliad.
Mae’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw’n trin “pob honiad o’r natur yma’n ddifrifol iawn”, ond na fyddai’n “briodol gwneud sylw” gan fod “y mater yn nwylo’r heddlu”.