Mae Prydain ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13), oni bai bod modd taro bargen ar yr unfed awr ar ddeg.

Mae’r hyn sydd wedi’i gynnig eisoes yn annigonol o safbwynt Llywodraeth Prydain, a bydd y prif weinidog Boris Johnson yn cynnal trafodaeth unwaith eto ag Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, cyn diwedd y dydd.

Mae disgwyl i swyddi gael eu colli ac i brisiau bwyd godi pe na bai modd taro bargen ynghylch meysydd sy’n cynnwys pysgodfeydd.

Er bod gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr o hyd, mae swyddogion yn dal i fynnu bod Boris Johnson yn benderfynol o daro bargen er mwyn sicrhau bod modd masnachu’n rhydd.

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Mae’r trafodaethau’n parhau dros nos ond fel mae pethau’n sefyll, mae’r cynnig ar y bwrdd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dal yn annerbyniol,” meddai un ffynhonnell o fewn Llywodraeth Prydain.

“Bydd y prif weinidog yn drylwyr iawn yn y broses hon, ond mae’n gwbl glir: rhaid i unrhyw gytundeb fod yn deg a pharchu’r safbwynt y bydd y Deyrnas Unedig yn genedl sofran ymhen tair blynedd.”

Mae disgwyl i Boris Johnson gynnal cynhadledd neu recordio datganiad ar ôl siarad â phrif swyddog Ewrop.

Ond mae’r Ceidwadwyr ac Ursula von der Leyen yn rhybuddio bod ymadawiad heb gytundeb yn fwy tebygol na dod i gytundeb.

Beth nesaf?

Yn sgil y tebygolrwydd o adael heb gytundeb, mae Llywodraeth Prydain yn paratoi i adael y farchnad sengl ar ddiwedd y cyfnod pontio ar Ragfyr 31.

Mae Boris Johnson yn arwain pwyllgor ‘XO’ i oruchwylio’r paratoadau wrth i weinidogion sicrhau bod modd i gyflenwadau bwyd a meddyginiaethau a nwyddau eraill gyrraedd gwledydd Prydain tan y flwyddyn nesaf.

Ond mae Conffederasiwn Diwydiannau Prydain yn galw am gytuno ar gyfnod o ymgyfarwyddo i fusnesau os na fydd modd taro bargen fel nad ydyn nhw “ar ymyl y dibyn”.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes yn dweud eu bod nhw’n paratoi llongau i warchod eu dyfroedd rhag ofn bod gwledydd yn pysgota’n anghyfreithlon, ac mae hynny wedi cythruddo rhai Ceidwadwyr.

Ac mae adroddiadau bod Llywodraeth Prydain hefyd yn paratoi i roi mwy o bwerau i’r Llynges fel bod modd iddyn nhw fynd ar longau ac arestio pysgotwyr sy’n torri rheolau ôl-Brexit.

Mae Brwsel eisiau i’r trefniadau presennol barhau am 12 mis pe bai Prydain yn gadael heb gytundeb, ond mae lle i gredu bod Llywodraeth Prydain wedi wfftio hynny.