Mae rhuthr i gludo nwyddau cyn cyfyngiadau Brexit ddechrau’r mis nesaf yn achosi ciwiau lorïau sy’n ymestyn am 10 milltir a hyd at 5 awr o oedi yn Calais.

Daw adroddiadau o ranbarth Haut-de-France fod 50% yn fwy na’r arfer o gerbydau nwyddau trwm wedi bod ar y ffyrdd i Calais dros y tair wythnos ddiwethaf.

“Fel arfer mae gennym tua 6,000 o lorïau, ond mae tua 9,000 ar  hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran llywydd y rhanbarth. “Mae’n dangos canlyniadau eithafol Brexit boed cytundeb neu beidio.”

Mae’r oedi eisoes yn achosi problemau ym Mhrydain, gyda Honda a Jaguar wedi gorfod rhoi’r gorau i gynhyrchu dros dro oherwydd prinder partiau, ac mae Ikea yn cael cwynion gan gwsmeriaid sy’n methu â chael eu nwyddau.

Mae disgwyl y bydd pethau’n gwaethygu ddechrau’r flwyddyn pan fydd angen gwneud mwy o wiriadau bob ochr i’r sianel. Awgrymwyd y gallai hyd at 7,000 o lorïau orfod ciwio yng Nghaint os na bydd cytundeb.