Mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi ymateb yn chwyrn i’r ffordd mae Boris Johnson yn ymdrin â thrafodaethau masnach Brexit a’r bygythiad o ddefnyddio llongau rhyfel y Llynges Frenhinol i warchod dyfroedd pysgota Prydain.
Daw hyn ar ôl i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau y bydd pedair llong wrth gefn i amddiffyn dyfroedd Prydain os na fydd cytundeb ar hawliau pysgota pan ddaw’r trefniadau pontio i ben ar 31 Rhagfyr.
Dywed Tobias Ellwood, Cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin, fod y bygythiad yn “anghyfrifol” ac mae’r Arglwydd Patten, cyn-gomisiynydd Ewropeaidd yn cyhuddo’r Prif Weinidog o ymddwyn fel “cenedlaetholwr Seisnig”.
“Dw i’n pryderu am ddyfodol y Deyrnas Unedig o dan arweinyddiaeth Boris Johnson ar ôl iddo ddweud ei bod yn debygol iawn y bydd y wlad yn gadael y farchnad sengl heb drefniadau masnachu newydd,” meddai’r Arglwydd Patten ar raglen Today ar Radio 1.
“Er fy mod i’n gobeithio’r gorau, dw i’n ofni’r gwaethaf, oherwydd mae’n anodd iawn iawn gweld beth yw’r cynllun – sut ydym ni am wneud mor wych pan fyddwn allan o ‘gawell’ Ewrop – rhywbeth y gwnaethom helpu ei adeiladu wrth gwrs oherwydd prif adeiladwr y farchnad sengl oedd Margaret Thatcher.”
Yn y cyfamser, parhau mae’r trafodaethau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, er bod Boris Johnson a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn rhybuddio bod diffyg cytundeb yn fwyfwy tebygol. Mae’r ddwy ochr wedi cytuno y bydd yn rhaid dod i benderfyniad y naill ffordd neu’r llall erbyn yfory, dydd Sul.