Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyfaddef y bydd llacio cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig yn debygol o arwain at gynnydd mewn achosion Covid-19.
Daw hyn ar ôl pryderon gan arbenigwyr fod y penderfyniad i lacio rheolau pellter cymdeithasol am bum niwrnod ledled gwledydd Prydain rhwng 23-27 Rhagfyr yn gamgymeriad.
Gan gydnabod bod Cymru’n wynebu sefyllfa ‘hynod o ddifrifol’, dywed Vaughan Gething y gallai Llywodraeth Cymru mewn theori dorri’r cytundeb rhyngddi a llywodraethau eraill Prydain – ond ei fod yn gyndyn o wneud hynny.
“Mae ymddiriedaeth mewn llywodraeth yn ystyriaethau holl bwysig,” meddai.
“Pe baen ni’n gwyrdroi’r rheolau sydd wedi cael eu cytuno fe fydden ni’n colli ymddiriedaeth gan nifer mawr o bobl sydd wedi glynu gyda nhw. Mae gen i ofn hefyd y byddai cryn dipyn o bobl yn barod i anwybyddu’r rheolau.
“Hyd yn oed gyda’r cytundeb yn ei le rydym yn debygol o weld nifer o bobl yn mynd y tu hwnt i hynny prun bynnag.
“Dyna pam rydym yn rhagweld cynnydd ar ôl y Nadolig a dyna pam dw i’n disgwyl y bydd cynnydd ar ôl Nos Galan hefyd.”
Dywed Linda Bauld, athro iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin, ei bod yn bryderus am effaith pobl yn teithio o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion i leoedd sydd â chyfraddau is o’r feirws dros y Nadolig.
“O safbwynt iechyd cyhoeddus, rhaid imi fod yn berffaith onest a dweud bod hyn yn gamgymeriad,” meddai.
“Os ydych chi’n cyfarfod pobl o gartrefi eraill, ac efallai bobl hŷn yn eu swigod – dw i’n meddwl bod hynny’n golygu y bydd cyfnod y Nadolig yn risg.”
Yr un oedd rhybudd yr Athro Stephen Reicher o Brifysgol St Andrews.
“Ar hyn o bryd, rydym ar ein ffordd at drychineb,” meddai.
“Yn wyneb y lefelau uchel o’r haint ledled y wlad a’r lefelau cynyddol mewn rhai ardaloedd, os bydd pawb ohonom yn dewis cyfarfod ein gilydd dros y Nadolig, mae’n anochel y byddwn yn talu’r pris yn y flwyddyn newydd.”