Mae staff a myfyrwyr prifysgolion wedi rhybuddio am effaith Brexit di-gytundeb ar barhad cyllid ymchwil a chynlluniau cyfnewid.

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ‘drychinebus’ i fyfyrwyr pan fo prifysgolion yn wynebu anawsterau’r pandemig Covid-19, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

“Os oes ar y Llywodraeth eisiau dangos eu bod nhw’n gwerthfawrogi addysg a chydweithio rhyngwladol, rhaid iddyn nhw drafod cytundeb sy’n cynnwys parhau’r cysylltiad â’r rhaglenni Erasmus+ a Horizon Europe,” meddai Hillary Gyebi-Ababio, is-lywydd addysg uwch yr NUS.

Yn yr un modd mae Universities UK (UUK), corff sy’n cynrychioli is-ganghellwyr 140 o brifysgolion, yn rhybuddio y byddai Brexit di-gytundeb yn cael effaith hirdymor ar gystadleurwydd rhyngwladol y sector addysg uwch.

Yn ôl UUK, mae’n hanfodol i Brydain barhau i chwarae rhan lawn yn rhaglen cyllid ymchwil Horizon Europe er mwyn parhau i allu denu’r gwyddonwyr a’r ymchwilwyr gorau.

Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) hefyd yn cyhuddo’r llywodraeth Prydain o danseilio addysg uwch.

“Mae myfyrwyr a staff o bob rhan o’r byd yn chwarae rhan hanfodol yn ein prifysgolion a’n colegau a dylai llywodraeth Prydain fod yn gwneud popeth a all i’w wneud yn haws iddyn nhw weithio ac astudio yma,” meddai Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol UCU.

“Yn lle hynny, mae’r Llywodraeth wedi’n gadael ni ar ymyl dibyn o ddiffyg cytundeb gyda’n cymdogion agosaf, ac yn y tywyllwch am gymryd rhan mewn rhaglenni gwerthfawr fel Erasmus+ a Horizon Europe yn y dyfodol.

“Mae hyn yn tanseilio’r agwedd eangfrydig a chydweithredol sy’n sail i lwyddiant ein sefydliadau.”