Wrth i ddau frawd ddianc rhag yr heddlu ar ôl dwyn dau gerbyd yng nghwm Tawe, fe wnaethon nhw adael eu ci Jack Russell ar ôl.

Yn anffodus i’r lladron, roedd microsglodyn gan Mitsie a oedd yn galluogi’r heddlu i ddangos mai nhw oedd ei pherchnogion.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i Ystradgynlais ar 28 Medi ar ôl adroddiad am fan yn cael ei dwyn, a daeth gwybodaeth i’r amlwg wedyn fod y lladron wedi gadael y fan a dianc mewn car a oedd hefyd wedi cael ei ddwyn. Yn fuan wedyn roedd yr heddlu dal i fyny â’r car yn teithio ar yr A40 i gyfeiriad Aberhonddu, a cheisiodd y ddau frawd ddianc ar droed.

Ychydig oriau’n ddiweddarach roedd y ddau, Matthew Peter Waters, 36 oed, a Daniel Waters, 28 oed o Brynwern, Pontypwl, yn y ddalfa, gydag un yn cael ei ddal ger safle bysiau yn Aberhonddu a’r llall ar hyd llwybr y gamlas.

Meddai’r Arolygydd Gwyndaf Bowen o Heddlu Dyfed-Powys:

“Roedd y diffynyddion wedi dianc rhag yr heddlu o gar a gafodd ei ddwyn ac wedi gadael Mitsie ar ôl er mwyn ceisio osgoi cael eu harestio. Aed â hi i’r orsaf heddlu i weld ei bod yn iawn, ac wedyn fe wnaeth milfeddyg sganio ei meicrosglodyn a oedd yn ei chysylltu â’r ddau ddiffynnydd.”

Ar ôl pledio’n euog i yrru peryglus, dau achos o gymryd cerbyd, a lladrad, cafodd y ddau eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddoe.

Cafodd Matthew Waters ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar a’i wahardd rhag gyrru am dair blynedd, a Daniel Waters ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar a’i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a chwe mis.