Mae canolfan wybodaeth newydd wedi agor yng ngwasanaethau Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin i helpu gyrwyr lorïau sydd ar eu ffordd i Abergwaun a Doc Penfro osgoi trafferthion Brexit.
Fe fydd staff profiadol yn cynnig gwasanaeth un-i-un yn esbonio’r newidiadau i reolau tollau sy’n debygol o ddigwydd ar ôl diwedd y mis. Fe fydd hyn yn galluogi’r gyrwyr i weld a oes ganddyn nhw’r gwaith papur angenrheidiol i gludo nwyddau i Iwerddon, ac yn helpu osgoi tagfeydd yn y porthladdoedd.
Mae 45 o ganolfannau tebyg yn cael eu sefydlu ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys un yn Sir Fôn ar gyfer cludwyr nwyddau ar y ffordd i Gaergybi.
“Yn 2019, Iwerddon oedd y 5ed marchnad allforio fwyaf y Deyrnas Unedig a’r 9fed ffynhonnell fwyaf o fewnforion,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
“Bydd masnachwyr sydd wedi’u lleoli ar hyd y coridorau deheuol yn defnyddio’r llif rhwng De Orllewin Cymru a Rosslare ac felly mae’n bwysig cynnig pwynt gwybodaeth iddynt yn agos at y porthladdoedd.”
Fe fydd yr wybodaeth ar gael i gludwyr mewn Cymraeg, Saesneg, Pwyleg, Rwmaneg ynghyd â nifer o ieithoedd eraill yr UE yn ogystal â Thyrceg a Rwseg.