Mae Goruchaf Lys America wedi gwrthod apêl yn enw’r Arlywydd Donald Trump i wrthdroi buddugolaeth Joe Biden yn yr etholiad ychydig dros fis yn ôl.

Daw hyn ar ôl cyfres o achosion aflwyddiannus gan gefnogwyr yr Arlywydd i geisio annilysu’r canlyniad.

Fe fydd y Coleg Etholiadol yn cyfarfod ddydd Llun i ethol Joe Biden yn ffurfiol fel y 46ain arlywydd.

Roedd Donald Trump wedi ymffrostio y byddai’r achos diweddaraf, a gafodd ei gyflwyno gan lywodraeth Texas yn erbyn llywodraethau taleithiau Georgia, Michigan, Pennsylvania a Wisonsin, yn dad-wneud mwyafrif Joe Biden yn y coleg etholiadol a galluogi’r arlywydd i aros yn y Tŷ Gwyn am bedair blynedd arall.

Mewn gorchymyn byr, fodd bynnag, barnodd y Goruchaf Lys nad oes gan Texas yr hawl i ddwyn achos yn erbyn y pedair talaith hynny.

Daw penderfyniad y Goruchaf Lys er gwaetha’r ffaith fod tri o’r ustusiaid wedi cael eu penodi gan Donald Trump ei hun.