Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud ei bod yn “debygol iawn” na fydd yna gytundeb Brexit rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, wedi dweud wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd bod gwledydd Prydain yn fwy tebygol o adael heb gytundeb.

Y prif faen tramgwydd yw sut i sicrhau cystadleuaeth deg unwaith y bydd gwledydd Prydain yn medru penderfynu ar ei reolau a safonau masnachu, pan ddaw Brexit ym mis Ionawr.

“Mae hi’n edrych yn debygol iawn, iawn y bydd yn rhaid i ni fynd am ddatrysiad dw i’n gredu fydde’n hyfryd i’r Deyrnas Unedig, ac fe fyddai ganddo ni’r hawl i wneud yr hyn a fynnem o fis Ionawr,” meddai Boris Johnson.

Mae’r ddwy ochr wedi dweud y byddan nhw yn gwneud “penderfyniad cadarn” o ran taro bargen neu beidio, erbyn diwedd dydd Sul.