Mae Rhydian Glyn Lloyd Jones, o Lechryd ger Aberteifi, wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Bu farw Marcus John Heighton, 31 oed, ar ôl i Rhydian Glyn Lloyd Jones daro ei feic modur wrth deithio ar yr A484 o Genarth i gyferiad Llechryd fis Medi’r llynedd.
Yn dilyn ymchwiliad hir gan yr heddlu, plediodd yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Datgelodd yr ymchwiliad fod Rhydian Glyn Lloyd Jones wedi bod yn defnyddio ei ffôn symudol cyn y gwrthdrawiad.
Daeth y Barnwr Geraint Walters i’r casgliad fod y defnydd o’r ddyfais wedi chwarae rhan yn y ddamwain.
“Rydym yn falch bod yr achos ar ben a hoffem ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymchwiliad hwn,” meddai’r blismones Eleri Edwards, o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol
“Mae’r achos hwn yn amlygu’r angen i yrru’n gyfrifol bob amser a bod peidio cymryd sylw o’r ffordd wrth yrru yn gallu costio bywydau.
“Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Heighton ar yr adeg anodd hon.”