Bydd brechlynnau Covid-19 ddim yn cael eu danfon i gartrefi gofal yfory oherwydd pryderon ynghylch cludo a chadw’r brechynnau Pfizer/BioNTech ar dymheredd isel.

Pobol dros 80 oed, staff a phreswylwyr cartrefi gofal, a’r rheiny sydd yn gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn cael eu blaenoriaethu yn gyntaf.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun (Rhagfyr 7) Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Pfizer i ddod o hyd i ffordd i ddarparu’r brechlyn mewn cartrefi gofal.

“Rydym yn gweithio nid yn unig gyda Pfizer ond gyda’n swyddogion a rheoleiddwyr i ddeall sut y gallwn ddarparu’r brechlyn yn ddiogel ac yn gyfreithlon i gartrefi gofal,” meddai.

“Ni fydd hynny’n digwydd yfory,” ychwanegodd.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr wythnos ddiwethaf byddai brechu yn dechrau yng Nghymru ddydd Mawrth, Rhagfyr 8.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd fod brechu mewn cartrefi gofal yn ddibynnol ar ddata.

“Mae’r data sefydlogrwydd – y data sy’n dweud am ba mor hir y gall y brechlyn gael ei storio ar dymheredd oergell unwaith y bydd wedi’i dynnu allan o’r rhewgell yn isel iawn – mae’n bwysig ein bod yn cytuno gyda’r rheoleiddwyr ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud.

“Tra bod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod yn gobeithio y byddan nhw’n gallu ei ddanfon cyn y Nadolig dw i’n gobeithio bod mewn sefyllfa lle gallaf roi dyddiadau mwy pendant am hynny.

“Ar hyn o bryd, nid yw’r sgyrsiau gyda’r rheoleiddwyr wedi’u cwblhau.”

Awgrymodd y Gweinidog Iechyd wythnos diwethaf y bydd brechlyn Rhydychen yn opsiwn gwell ar gyfer cartrefi gofal pan gaiff gymeradwyaeth gan y gellid ei storio’n haws.

Ymateb y Ceidwadwyr

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Andrew RT Davies – Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr:

“Mae cartrefi gofal yn gymuned gaeëdig, ac mae angen esboniad llawnach o’r rhesymau pam na fydd y bobl hyn – y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru – ymhlith y cyntaf [i dderbyn y brechlyn].

Yna, mynnodd gynllun ar gyfer ffigurau’r coronafeirws yng Nghymru, sy’n parhau i gynyddu.

“Rydyn ni, nid yn unig y Ceidwadwyr Cymreig ond pawb yng Nghymru rwy’n siŵr, eisiau gweld cynlluniau manwl o sut y bydd y weinyddiaeth yma yn mynd i’r afael â hyn,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym wedi bod yn galw am gyhoeddi cynllun Gaeaf manwl ar gyfer sut y bydd y feirws yn cael ei reoli am fisoedd, ac rydym yn dal i aros.”