Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bydd brechu yn dechrau yng Nghymru ddydd Mawrth nesaf, Rhagfyr 8.

Mae gwledydd Prydain ymhlith y rhai cyntaf yn y byd i roi sêl bendith i frechlyn Pfizer/BioNTech, ac mae eisoes ganddi 40 miliwn dos sy’n ddigon i frechu 20 miliwn o bobol.

“Mae’r brechlyn Covid-19 cyntaf yn barod i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac rydym yn gobeithio y bydd yr un nesaf yn dilyn yn fuan,” meddai Mark Drakeford.

“Byddwn yn dechrau brechu pobol ddydd Mawrth nesaf gan gychwyn ar y llwybr hir i normalrwydd.”

Nifer yr achosion yn parhau i gynyddu

Fodd bynnag, rhybuddiodd y Prif Weinidog fod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i gynyddu yng Nghymru.

Mae cyfradd yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf 50 pwynt yn uwch na’r 188 o achosion i bob 100,000 yn yr wythnos flaenorol.

Mae gan bron i ddwy ran o dair o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfradd achosion o saith diwrnod o 150 o achosion fesul 100,000 o bobl neu fwy.

Mewn dwy ardal, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent, mae’r gyfradd bellach wedi codi i dros 400 o achosion fesul 100,000 o bobol.

Mae canran y profion sy’n gadarnhaol hefyd yn cynyddu.

“Mae coronafeirws yn rhoi ein Gwasanaeth Iechyd dan bwysau sylweddol a pharhaus,” meddai Mark Drakeford.

“Bob dydd, rydym yn gweld mwy a mwy o bobol yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda symptomau coronafeirws. Yr wythnos ddiwethaf gwelsom y nifer uchaf erioed o gleifion sy’n gysylltiedig â’r feirws yn yr ysbyty.”

Ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Nid yw canran y bobl sy’n profi’n bositif am Covid-19 bellach yn gostwng yng Nghymru mwyach, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Amcangyfrifwyd bod gan 18,100 o bobl mewn cartrefi preifat Covid-19 rhwng 22 Tachwedd a 28 – sy’n cyfateb i 0.60% o’r boblogaeth.

Mae hyn ychydig yn uwch na’r amcangyfrif o 16,400 o bobl ar gyfer y cyfnod rhwng 15 a 21 Tachwedd, neu 0.54% o’r boblogaeth.

Yn y cyfamser, mae nifer yr heintiau Covid-19 newydd yn Lloegr yn parhau i ostwng, yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf.

Fodd bynnag, oherwydd y nifer gymharol fach o brofion a nifer isel o brofion cadarnhaol yn ei sampl yng Nghymru, ychwanegodd y Swyddfa Arolwg Cenedlaethol y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ei chanlyniadau.

Gwasanaeth Ambiwlans dan bwysau

Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod dan bwysau critigol ddoe.

Dywedodd Mark Drakeford fod hyn yn “arwydd clir cyntaf o effaith coronafeirws ar ofal o ddydd i ddydd”.

“Ddoe roedd yna apêl i bobol ond ffonio am ambiwlans os yw bywyd rhywun yn y fantol, oherwydd pwysau mawr ar y gwasanaeth yng Nghymru.”

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae’r galw’n arbennig o drwm yn y de ddwyrain.

Swigod Nadolig – ychwanegiad

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyhoeddi bydd un person, rhiant sengl neu rywun sydd â chyfrifoldebau gofalu yn cael ymuno â swigod Nadolig yng Nghymru.

Dywedodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig i gael set gyffredin o drefniadau rhwng Rhagfyr 23 a 27 i alluogi tri chartref i ymuno i ffurfio swigen Nadolig unigryw.

“Rydym wedi cytuno ar ychwanegiad pwysig i’r trefniadau Nadolig i sicrhau nad yw pobol sy’n byw ar eu pennau eu hunain, rhieni sengl a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu yn cael eu gadael allan”, meddai.