Mae gofidion y bydd cynnydd mewn achosion o Yfed a Boddi yng Nghymru dros y Nadolig.

Dywed y Gymdeithas Achub Bywydau Brenhinol (RLSS UK) y dylai pobol, yn enwedig dynion, fod yn fwy gofalus, gan osgoi cerdded adref wrth ymyl dŵr ar ôl bod yn yfed.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn annog pobol i drefnu eu taith gartref cyn mynd ati i yfed.

Dros y pum mlynedd diwethaf bu 124 o achosion o farw trwy foddi yn ddamweiniol yng Nghymru, ac roedd 33 o’r rhai fu foddi gydag alcohol neu gyffuriau yn eu system, sydd bron yn 27% o gyfanswm y meirw.

Ledled y Deyrnas Unedig, roedd 1,358 o bobol wedi boddi’n ddamweiniol ac roedd 385 ohonyn nhw yn feddw (28%).

“Mesurau mwy hael”

Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o farwolaethau trwy foddi sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, yn digwydd pan fydd person yn syrthio i mewn i ddŵr yn ddamweiniol wrth gerdded adref wedi noson allan.

“Gyda mwy o bobol yn dewis yfed gartref ym mis Rhagfyr eleni, mae temtasiwn gwirioneddol i fwynhau mesurau mwy hael,” meddai Robert Gofton, Prif Swyddog Gweithredol RLSS UK.

“Bydd llawer o bobol am dreulio amser yn eu swigod teuluol, cyn dychwelyd adref er mwyn osgoi’r cyswllt estynedig o aros dros nos.

“Er bod angen rhywfaint o hwyl ac ymlacio arnom i gyd ar ôl y flwyddyn ddigynsail hon, rydym am sicrhau bod pawb yn ddiogel.

“Gall alcohol amharu’n ddifrifol ar eich gallu i oroesi mewn dŵr, ac rydym yn annog pawb i osgoi cerdded adref ymyl dŵr yn y tywyllwch, ac yn enwedig os ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.”