Mae cwmni Wetherspoon wedi cyhoeddi bydd rhai o’u tafarndai yn aros ar agor wedi’r cyfan.

Yn wreiddiol roedd cadeirydd y cwmni, Tim Martin, wedi dweud y byddai holl dafarndai Wetherspoon yng Nghymru yn cau oherwydd y cyfyngiadau newydd sydd yn dod i rym heno.

Bydd rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am chwech yr hwyr, a fyddan nhw ddim yn cael gweini alcohol.

Ond bydd tafarndai Wetherspoon yng Nghaerdydd, Casnewydd, Caernarfon, Cwmbrân, yr Wyddgrug a Wrecsam yn parhau i fasnachu fel caffis.

Tro pedol

Daw’r tro pedol ar ôl cyfarfod gyda dau aelod Ceidwadol o’r Senedd.

“Ar ôl cyfarfod ag arweinydd Ceidwadol yr wrthblaid Paul Davies a’r prif chwip Darren Millar yn ein tafarn, The Mount Stuart, yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon, roedd hi’n amlwg eu bod nhw’n gwrthwynebu cau tafarndai Cymru ac yn awyddus i Wetherspoon gadw rhai o dafarndai’r cwmni ar agor,” meddai llefarydd Wetherspoon.

“O ganlyniad, rydym wedi penderfynu cadw wyth o’r tafarndai ar agor rhwng wyth y bore a chwech yr hwyr drwy gydol yr wythnos.”