Yn ystod cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig, bod angen i’r cyngor ystyried cynyddu’r premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag o 50% i 100%.

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd y premiwm treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi ym mis Ebrill 2018, gan godi cyfanswm y dreth i berchnogion o 50%.

“Rydym wedi clywed galwadau cyhoeddus di-ri gan ein cymunedau i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys yn y maes hwn, ond mae’r ymateb wedi bod yn ddigon llugoer gan y Blaid Lafur hyd yma,” meddai Dafydd Meurig.

“Mae’r farchnad dai wedi gorboethi ers diwedd y cyfnod clo a chynnydd anhygoel mewn prisiau tai.

“Mae tai yn gwerthu heb oedi, yn aml gydag arian parod. Mae’n amlwg fod nifer yn cael eu prynu i fod yn dai gwyliau neu ail-gartref.

“Mae rhai o’r tai hyn yn atal pobl ifanc, a anwyd ac a fagwyd yn yr ardal, rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo.”

“Ddoe cyhoeddwyd gwaith ymchwil manwl gan wasanaeth cynllunio’r Cyngor i edrych am ffyrdd i reoli gosodiadau tai gwyliau tymor byr drwy’r drefn gynllunio, trefn trwyddedu ac wrth gwrs, trwy drethu.

“Bydd yr adroddiad yn sail tystiolaeth gadarn ac yn cynnig ffordd ymlaen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu. Gyda chefnogaeth nifer o gynghorau eraill sy’n wynebu’r un argyfwng mi fyddwn ni fel Plaid, yn cyflwyno ein hargymhellion i Weinidogion y Llywodraeth.”

“Dealltwriaeth a chydymdeimlad”

“Petai gennym ni Lywodraeth sydd â dealltwriaeth a chydymdeimlad o’r sefyllfa ddifrifol hon ym maes tai, dylent fod wedi comisiynu’r math yma o waith ymchwil ledled Cymru. Unwaith eto mae Llywodraeth oleuedig yr Alban eisoes yn deddfu yn y maes.

“Yng nghyfarfod Cabinet Gwynedd nesaf, byddwn yn ystyried ein Cynllun Gweithredu Tai cyffrous i ddarparu tai o safon sydd wir eu hangen ar ein pobl ni yng Ngwynedd. Mae’n gynllun uchelgeisiol a chyffrous sy’n buddsoddi £77miliwn ac yn manteisio ar y gronfa premiwm ail-gartrefi.

“Mae gennym deimladau cryfion am godi’r premiwm, ond gan fod rhaid i ni ddilyn trefn statudol o ymgynghori a rhoi ystyriaeth i effaith unrhyw newid, dwi’n awyddus i ni ddychwelyd i’r Cyngor ym mis Mawrth gydag argymhelliad clir.”

Bydd trafodaeth ar y  premiwm yn digwydd yng nghabinet Cyngor Gwynedd ar Ragfyr 15 2020.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn ymwybodol o bryderon am ail gartrefi mewn cymunedau yn rhai rhannau o Gymru.

“Mae’r rhain yn faterion pwysig i Lywodraeth Cymru.

“Mae Gweinidogion wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol i archwilio atebion effeithiol a chytbwys gan adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes yn nhymor y Senedd hon.

“Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Gellir cymhwyso premiwm o hyd at 100%.

“O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm – a bennir ganddyn nhw – nid oes yr un ohonynt yn codi mwy na 50%.”