Mae dyn wnaeth ddwyn coeden Dolig o goedwig, wedi cytuno i dalu iawndal i ymddiriedolaeth cadwraeth wiwerod coch.

Cafodd y gyrrwr ei ddal gan gamera ar lwybr yn gadael Coedwig Clocaenog, ger Rhuthun, gyda’r goeden ar do ei gar yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi delio â’r mater drwy ddatrysiad cymunedol, ar ôl trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Eglurodd rheolwr y tîm troseddau gwledig, Rob Taylor, sut y gall cymryd coed o goedwigoedd fod yn drosedd o dan y ddeddf dwyn, gyda chosbau’n amrywio.

Weithiau mae datrysiad cymunedol yn cael ei ddefnyddio i ddelio â mân droseddau fel y rhain.

Mae hyn yn cynnwys cytundeb rhwng y partïon dan sylw, megis y tirfeddiannwr a’r person a gymerodd y goeden.

Mae Coedwig Clocaenog yn  gartref i wiwerod coch, ac mae’r lleidr wedi cytuno i roi swm amhenodol i helpu’r anifeiliaid hyn.

Ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi annog pobol i helpu i ddiogelu coedwigoedd Cymru drwy brynu coed Nadolig gan gyflenwyr lleol yn unig.

“Mae coedwigoedd yn rhan hanfodol o fioamrywiaeth Cymru ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o warchod rhywogaethau sydd mewn perygl fel y wiwer goch ac yn cefnogi’r economi leol drwy gynhyrchu coed,” meddai’r uwch swyddog rheoli tir, James Roseblade.