Mae’r cynhyrchydd mêl o’r Drenewydd, Hilltop, wedi cael ei gydnabod fel un o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru ar Restr Fast Growth 50 Cymru, 2020.
O’r rhestr o 50 o gwmnïau, sydd gyda’i gilydd yn cynhyrchu £476m mewn refeniw ac yn cyflogi bron i 2,600 o bobl yn 2019, roedd Hilltop yn rhif 20 gan hyrwyddo twf o 194.8% (2017-2019).
Lansiwyd Fast Growth 50 Cymru yn 1999 gan yr Athro Dylan Jones-Evans, a dyma’r arweiniad swyddogol i’r cwmnïau cynhenid sy’n tyfu gyflymaf yn economi Cymru.
Y ffactor sy’n penderfynu a yw cwmni’n cael ei gynnwys yw twf refeniw o 2017-19 ac mae gofyn bod cwmni wedi cyflawni gwerthiant o leiaf £250,000.
Mae Hilltop hefyd wedi cyrraedd rhif 26 yn 24ain cynghrair flynyddol y Sunday Times Virgin Atlantic Fast Track 100 sy’n rhestru cwmnïau preifat Prydain â’u gwerthiannau’n tyfu gyflymaf.
Ac yn y flwyddyn hyd at fis Awst, mae Hilltop wedi tyfu eu gwerthiant 79% i £11.7m gyda chymorth defnyddwyr fu’n prynu llawer pan darodd y pandemig y tro cyntaf.
Mae Hilltop wedi’i leoli mewn cyfleuster 14,000 troedfedd sgwâr yn y Drenewydd, canolbarth Cymru ac mae’n cyflogi 51 o staff.
Mae’r cwmni’n cynhyrchu brand o fêl pur a naturiol gyda’r genhadaeth gyffredinol o helpu cwsmeriaid i ddysgu bod ‘mwy i fêl’.
Dechreuodd y busnes yn 2011, ar ôl i’r perchennog a’r sylfaenydd Scott Davies ddarganfod ei frwdfrydedd dros gadw gwenyn fel modd o therapi yn dilyn anaf i’w gefn.
“Rydym ni’n hynod falch bod Hilltop wedi’i gynnwys yn y 50 busnes sy’n tyfu gyflymaf yn yng Nghymru yn 2020 a’r Sunday Times Atlantic Fast Track 100,” meddai Scott Davies.
“Mae’n dyst i ymroddiad a gwaith caled y tîm yn Hilltop bod y cwmni’n parhau i dyfu a ffynnu, yn enwedig o ystyried yr heriau a ddaw gyda phandemig y coronafeirws.
“Mae cwsmeriaid wir wedi croesawu brand ac ethos Hilltop yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddarparu mêl o ansawdd premiwm mewn jariau a photeli y gellir eu hailgylchu.
“Mae galw gwirioneddol hefyd ar hyn o bryd am ddewis naturiol, iachach yn lle siwgrau coeth ym mhob math o goginio, o opsiynau brecwast i brydau sawrus a phobi.”
Wrth longyfarch y cwmni ar ei lwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi ei dwf a’i ddatblygiad.
“Mae’n amlwg bod angen dathlu gwaith caled, arloesedd a phenderfyniad ein busnesau yng Nghymru yn fwy nag erioed, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae llawer o’n busnesau wedi cael eu taro’n galed gan bandemig COVID-19 ac eto wedi goroesi, adfer a dechrau tyfu eto.”