Mae’r Gweinidog Tai, Julie James, yn bwriadu gwneud datganiad ym mis Ionawr am y posibilrwydd o roi grymoedd i Awdurdodau Lleol i reoli’r farchnad dai a thwristaidd.
Wedi i ddeiseb yn galw am newid gael ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol bu Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn trafod y ddeiseb dydd Mawrth (Rhagfyr 15).
Penderfynodd y Pwyllgor y bydd y Senedd gyfan yn trafod y ddeiseb yn y flwyddyn newydd os na fydd ymateb y Llywodraeth yn bodloni galwadau’r ddeiseb.
‘Cymhleth ac amlddimensiwn’
Mewn llythyr at y Pwyllgor Deisebau dywedodd Julie James fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r anawsterau sy’n gallu codi yn sgil ail gartrefi mewn perthynas â chyflenwad tai fforddiadwy.
“Rydym yn deall yr angen i sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau, gan gynnwys creu’r amodau cywir i’r Gymraeg ffynnu,” meddai.
Ond rhybuddiodd y Gweinidog Tai fod yna “nifer o faterion cymhleth, amlddimensiwn sy’n ymwneud ag ail gartrefi.”
“Ynghyd â’m cyd-Weinidogion, rwy’n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru ac ag Aelodau o’r Senedd i ddatblygu a mireinio sut rydym yn ystyried y materion dan sylw, ac i lywio’r camau y byddwn yn eu cymryd.”
“Mae ein swyddogion wedi cael trafodaethau adeiladol gydag awdurdodau lleol sydd â niferoedd uchel o ail gartrefi, a byddant yn parhau i wneud hynny,” ychwanegodd Julie James.
“Mae’r cwestiynau sy’n ymwneud ag ail gartrefi yn bwysig i Lywodraeth Cymru, fel y maent i’n cymunedau.
“Byddaf yn parhau mewn cysylltiad â’m cyd-Weinidogion ac ag Aelodau o’r Senedd ar draws y pleidiau, ac rwy’n bwriadu gwneud datganiad ym mis Ionawr.”
‘Dadl frys ar gyfer argyfwng brys’
Mae Cymdeithas yr Iaith, a oedd yn gyfrifol am y ddeiseb wreiddiol, wedi croesawu’r cyhoeddiad bydd datganiad yn y flwyddyn newydd.
“Rydym yn diolch i Leanne Wood a gynigiodd yn llwyddiannus yn y cyfarfod y dylai’r Pwyllgor ofyn i’r Gweinidog ystyried yn y datganiad y camau brys y dylid eu cymryd i wella’r sefyllfa,” meddai Osian Jones ar ran y Gymdeithas.
“Ond mynegwn ein pryder fod y cyn-aelod UKIP Michelle Brown wedi awgrymu gadael y mater ‘ar y back-burner’ tan i’r Gweinidog wneud ei datganiad.
“Mae’n argyfwng brys ar lawer o’n cymunedau Cymraeg, a mynnwn ddadl frys ar ddatganiad y Gweinidog y mis nesaf.”