Bydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn trafod deiseb a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith am 9yb heddiw (Rhagfyr 15).

Mae’r ddeiseb yn galw ar y Llywodraeth i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristaidd.

Hefyd heddiw, bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi y cynhelir Rali Genedlaethol “Nid yw Cymru ar werth” y flwyddyn nesaf ar hyd argae Tryweryn ger Y Bala lle boddwyd Capel Celyn 55 mlynedd yn ôl.

“Llofnodwyd ein deiseb gan 5380 o bobl o fewn mis, ac yr ydym yn gofyn i’r Pwyllgor Deisebau … argymell fod dadl frys yn siambr y Senedd ar y ddeiseb a’r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg,” meddai Osian Jones, llefarydd ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith.

“Ers cenhedlaeth rydyn ni wedi colli mwy a mwy o’n stoc tai ar y farchnad agored wrth fod unigolion cyfoethocach yn eu prynu fel tai haf, ail gartrefi a buddsoddiadau masnachol, ac mae argyfwng Covid wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“O ganlyniad i hyn, mae’n amhosibl i fwyafrif o drigolion mewn cymunedau fel Abersoch, Nefyn a nifer cynyddol o lefydd eraill ymgartrefu yn eu cymunedau eu hunain, ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar yr iaith Gymraeg.

“Mae’n gwbl amlwg nad yw’r system economaidd yn gweithio er budd ein cymunedau nac ychwaith ein hiaith.

“Dylai Llywodraeth Cymru am unwaith flaenoriaethu cymunedau rydd, nid y farchnad rydd: mae’n deiseb ‘Nid yw Cymru ar werth’ yn gyfle euraidd i’r Llywodraeth wneud hyn.”

Llywodraeth Cymru yn “ymwybodol iawn o’r heriau”

Mewn llythyr yn ymateb i’r ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n gallu codi yn sgil ail gartrefi mewn perthynas â chyflenwad tai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru, ac rydym yn deall yr angen i sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau, gan gynnwys creu’r amodau cywir i’r Gymraeg ffynnu.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau sylweddol i helpu i sicrhau bod cartrefi yn fforddiadwy a bod yna gartrefi ar gael.

“Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru, ac ar draws pob deiliadaeth wedi’i hen sefydlu.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi ac ymwelwyr yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau, ac rydym eisoes wedi cymryd camau ymarferol i wneud i hynny ddigwydd.”

“Diffyg ymwybyddiaeth”

Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r llythyr hwn gan ddweud fod y Gweinidog yn dangos “diffyg ymwybyddiaeth”.

“Tra bo llythyr y Gweinidog yn cydnabod fod problemau a materion i’w trafod o ran polisïau tai a chynllunio, a’u heffeithiau ehangach, nid yw geiriad yr ail baragraff yn awgrymu fod y Gweinidog yn deall natur brys yr argyfwng mewn llawer o’n cymunedau gwledig Cymraeg.

“Mae cyfeirio at “heriau sy’n gallu codi yn sgil ail gartrefi” yn dangos diffyg ymwybyddiaeth â’r ymdeimlad o chwalfa gymunedol sydd gan lawer o drigolion yr ardaloedd hyn.

“Ac mae cyfeirio at “yr angen i sicrhau’r cytbwysedd iawn rhwng anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau” yn awgrymu fod gweithrediad afreolus y farchnad dai eleni yn yr ardaloedd hyn o fudd economaidd, ond gyda photensial i greu problemau cymdeithasol.

“Mae’r chwalfa a achosir gan weithrediad y farchnad dai yn yr ardaloedd gwledig a thwristaidd eleni yn chwalfa gymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ac yn gadael llawer o bobl ifainc â theimlad o anobaith am unrhyw ddyfodol yn y cymunedau lle cawsant eu magu.”