Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael ei threchu eto yn Nhy’r Arglwyddi ar Fil y Farchnad Fewnol.

Mae Tŷ’r Arglwyddi felly’n parhau’r brwydro deddfwriaethol gyda’r Llywodraeth gan fynnu newidiadau i Fil y Farchnad Fewnol unwaith eto.

Mae’r llywodraethau datganoledig wedi galw’r Bil yn “gipiad pŵer” gan San Steffan.

Dywed y Llywodraeth fod angen  y Bil pan fydd Prydain yn gadael marchnad sengl ac undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Ond mae dicter yn parhau ynghylch yr hyn a ystyrir yn ymdrech i ganoli grym ar draul Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y rownd ddiweddaraf o’r broses ‘ping-pong’ seneddol, adnewyddodd yr Arglwyddi eu galw am hyblygrwydd i’r llywodraethau datganoledig ym marchnad fewnol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Cefnogodd Tŷ’r Arglwyddi, o 332 o bleidleisiau i 229, sy’n fwyafrif o 103, gam a fyddai’n caniatáu ymwahanu cytunedig drwy’r hyn a elwir yn ‘fframweithiau cyffredin’.

Ar ran y Llywodraeth, pwysleisiodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, yr Arglwydd True, rôl Senedd San Steffan o ran “diogelu marchnad ar draws pob rhan o’n teyrnas”.

Byddai “datgymhwyso” rhannau o’r ddeddfwriaeth yn peryglu sicrwydd ar gyfer busnesau, dadleuodd.

Dywedodd: “Ni allwn fforddio peryglu’r gallu i’n dinasyddion fasnachu’n ddi-dor ar draws y Deyrnas Unedig fel y maent yn ei wneud nawr.”

Ond wrth gynnig y newid llwyddiannus i’r Bil, dywedodd yr Arglwydd Hope o Craighead, aelod annibynnol ar y meinciau cefn:

“Nid wyf yn credu y bydd yn amharu ar weithrediad y farchnad fewnol mewn unrhyw ffordd.

“Yn wir, mae manteision o ganiatáu i’r gweinyddiaethau datganoledig ddatblygu eu syniadau mewn ffordd sy’n gyson â’r farchnad fewnol drwy ddefnyddio’r broses hon [y ‘fframweithiau cyffredin’] a’r cyfle i ymwahanu y mae’n ei ganiatáu.”

Mewn ergyd pellach i’r Llywodraeth, cefnogodd yr Arglwyddi gynnig Llafur, o 302 i 254, mwyafrif o 48, gyda’r nod o sicrhau nad yw egwyddorion mynediad i’r farchnad yn berthnasol i fesurau sy’n cyfrannu at amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid.

Darllen Mwy