Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi mai William Powell sydd wedi ei ddewis fel eu hymgeisydd yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn Etholiad y Senedd, a hynny yn hytrach na’r arweinydd, Jane Dodds.

Mae William Powell yn wreiddiol o’r etholaeth ac wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Talgarth ers 2004.

Bu hefyd yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Kirsty Williams – a fu’n Aelod Cynulliad a Senedd Brycheiniog a Maesyfed ers 1999 – gyhoeddi fis Hydref na fyddai hi’n sefyll yn etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf.

Roedd cryn ddyfalu wedi bod pwy fyddai’n olynu Kirsty Williams gyda’r cyn-AS Jane Dodds yn un o’r ffefrynnau.

Ond ychydig fisoedd ar ôl cael ei hethol yn Aelod Seneddol yn San Steffan collodd Jane Dodds ei sedd ym Mrycheiniog a Maesyfed yn Etholiad Cyffredinol 2019.

‘Sicrhau llais Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed;

“Yr ydym yn blaid ddemocrataidd, ac yr oedd hwn yn benderfyniad a wnaethpwyd gan aelodau lleol,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Bydd William, Kirsty a Jane yn awr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod llais Rhyddfrydol yn cael ei gynnal ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yn y Senedd”

Mae Kirsty Williams, yr Aelod cyfredol o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Er mor anodd fu’r penderfyniad i beidio â cheisio cael fy ailethol, gallaf gamu i lawr gyda balchder yn ein record o’r hyn rydym wedi ei gyflawni ar gyfer pobol Brycheiniog a Sir Faesyfed dros y ddau ddegawd diwethaf, a chyda hyder bod y blaid leol wedi dewis ymgeisydd eithriadol o dda fel fy olynydd,” meddai.

“Rwyf wedi adnabod a gweithio gyda William Powell ers blynyddoedd lawer.

“Os byddwch yn ethol William Powell yn AS fis Mai nesaf, byddwch yn ethol y llais yr ydych yn ei haeddu, gan ymladd eich cornel drwy amseroedd da a chaled.”