“Nid dyma’r diwedd” i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn ôl Jane Dodds, yr aelod seneddol a gollodd ei sedd ym Mrycheiniog a Maesyfed wrth i’w phlaid ddiflannu o’r tirlun gwleidyddol yng Nghymru.

Ar lefel Brydeinig, collodd y blaid eu harweinydd Jo Swinson yn yr Alban.

Cafodd Jane Dodds ei hethol yn aelod seneddol ar ôl i Chris Davies, y Ceidwadwr, orfod camu o’r neilltu mewn is-etholiad yn sgil helynt treuliau.

Ond ychydig fisoedd barodd ei olynydd yn yr etholaeth cyn i’r Ceidwadwyr adennill y sedd nos Iau (Rhagfyr 12).

Yng Nghymru, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o fargen gyda’r pleidiau sydd yn erbyn Brexit i beidio â brwydro yn erbyn ei gilydd mewn ymgais i drechu’r Ceidwadwyr.

‘Noson anodd dros ben’

Wrth ymateb i ganlyniadau’r etholiad, dywed Jane Dodds iddi hi a’i phlaid gael “noson anodd dros ben”.

“Dw i am ddechrau drwy ddiolch i bawb a bleidleisiodd ddoe,” meddai.

“Mae’r ffaith fod cynifer wedi troi allan er gwaetha’r gwynt a’r glaw yn adrodd cyfrolau am eich dyfalbarhad.

“Dw i ddim am ddweud celwydd. Roedd hi’n noson anodd dros ben – nid yn unig i fi, ond i Ddemocratiaid Rhyddfrydol ledled y Deyrnas Unedig.

“Daethon ni’n boenus o anodd at ennill llu o aelodau seneddol yn rhagor ac fe gollodd nifer o gydweithwyr ymroddedig eu seddi, yn drist iawn, gan gynnwys ein harweinydd Jo Swinson.”

Gwasanaethu’r gymuned

Wrth asesu ei chyfnod byr yn aelod seneddol, mae’n dweud iddi geisio bob amser i “weithio’n galed fel cynrychiolydd mae ein cymunedau’n ei haeddu” ac i “roi llais i bobol yn y coridorau grym”.

Mae’n dweud ei bod hi’n gobeithio iddi allu “gwneud gwahaniaeth”.

“Ond nid dyma’r diwedd,” meddai wedyn.

“Dw i bob amser wedi sefyll i fyny ac wedi brwydro dros fy ngwerthoedd a’r hyn dw i’n credu ynddo.

“Os rhywbeth, mae’r canlyniadau wedi cryfhau fy mhenderfyniad i barhau i frwydro am y dyfodol mwy disglair hwnnw rydyn ni am ei weld.”

‘Cynnal sgyrsiau’

Wrth wneud sylw am yr hinsawdd wleidyddol yng Nghymru, mae’n dweud ei bod hi am barhau i gynnal sgyrsiau adeiladol.

“Mae ein gwleidyddiaeth yn well na’r ymosodiadau parhaus ar ein gilydd.

“Mae angen i ni allu cael sgyrsiau gonest am y materion a sut rydyn ni am eu trwsio nhw, gan waredu ar y rhethreg a parchu safbwyntiau pawb.

“Diolch o galon unwaith eto i bawb sydd wedi fy nghefnogi i a’m hymgyrch, i bawb ledled Cymru sydd wedi ymgyrchu dros ddyfodol mwy llewyrchus, ac i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.

“Dw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw i gyd.”