Bu chwe miliwn a mwy yn gwylio Huw Edwards yn cyflwyno rhaglen etholiadol y BBC nos Iau.
Roedd y gynulleidfa ar ei chryfaf rhwng 10.05 a 10.10 pan ddaeth canlyniad y pôl yn darogan mwyafrif swmpus i’r Ceidwadwyr.
4.26 miliwn wnaeth wylio’r rhaglen rhwng 9.55 yr hwyr a dau’r bore – ychydig yn llai na’r 4.4 miliwn oedd wedi gwylio’r rhaglen adeg yr etholiad yn 2017.
Bu Huw Edwards yn angori’r trafod am 11 awr a dyma’i dro cyntaf wrthi, wedi i David Dimbleby roi’r gorau iddi wedi bron i 40 mlynedd wrth y llyw.
Bu 1.4 miliwn yn gwylio rhaglen etholiad ITV rhwng 10 yr hwyr a dau’r bore.
244,000 wnaeth wylio’r Alternative Election Night ar Channel 4 – hanner y 582,000 wnaeth wylio rhaglen debyg y sianel yn 2017.