Mae nifer y bobl sy’n marw tra’n ddigartref yng Nghymru a Lloegr wedi codi am y bumed flwyddyn yn olynol, mae data newydd yn dangos.
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod tua 778 o farwolaethau ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr wedi’u cofrestru yn 2019.
Mae hyn yn gynnydd o 7.2% ers 2018 pan amcangyfrifwyd bod 726 o farwolaethau… a dyma’r nifer uchaf ers dechrau’r gyfres ddata yn 2013.
Amcangyfrifwyd bod 33 o farwolaethau ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru.
Mae nifer y marwolaethau amcangyfrifedig ymhlith pobl ddigartref wedi cynyddu bob blwyddyn o 2014 pan cofnodwyd 475, mae’r data’n dangos.
Dywedodd prif weithredwr Shelter, Polly Neate, fod y ffigyrau’n dangos pa mor beryglus y gall digartrefedd a chysgu ar y stryd fod.
Ychwanegodd: “Ni ddylai unrhyw un farw ar y strydoedd nac mewn gwely dros dro mewn hostel.
“Mae’n ofnadwy meddwl bod cymaint o bobl wedi treulio eu munudau olaf heb gartref diogel yn 2019.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos pa mor anhygoel o beryglus y gall digartrefedd, ac yn enwedig cysgu ar y stryd, fod… hyd yn oed cyn i ni gael pandemig marwol i ddelio ag ef.
“Ar ddechrau’r cyfyngiadau ym mis Mawrth cynigiwyd llety i filoedd o bobl, ond gyda chaethiwed economaidd yr argyfwng yn arwain at golli miloedd o swyddi, bydd llawer o bobl yn wynebu trawma digartrefedd y gaeaf hwn.
“Nid ystadegau yn unig yw’r rhain”
“Nid ystadegau yn unig yw’r rhain – maent yn bobl go iawn sydd wedi colli eu bywydau yn drasig yn ystod argyfwng tai ledled y wlad.
“Heddiw, mae’n bwysig ein bod yn eu cofio ac yn defnyddio’r golled ofnadwy hon fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol.”
Mae’r data, a gyhoeddwyd ddydd Llun (14 Rhagfyr), hefyd yn dangos bod 37.1% o’r marwolaethau amcangyfrifedig yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau, tra cynyddodd hunanladdiadau ymhlith pobl ddigartref o 30.2%.
Roedd y rhan fwyaf o’r marwolaethau yn 2019 ymhlith dynion gyda 687 o farwolaethau amcangyfrifedig (88.3%).
Ymhlith pobl ddigartref yn 2019, yr oedran cyfartalog adeg marwolaeth oedd 45.9 mlynedd i ddynion a 43.4 oed i fenywod.
Dywedodd prif weithredwr yr elusen ddigartrefedd Crisis, Jon Sparkes, fod y cynnydd mewn hunanladdiadau ymhlith pobl ddigartref yn “frawychus”.
“Mae’n drychinebus bod cannoedd o bobl wedi marw heb urddas cartref sefydlog,” meddai.
“Mae’n dorcalonnus mai’r hyn sy’n eu huno yw methiant systematig llywodraethau olynol.”
Galwodd Mr Sparkes hefyd am i bobl ddigartref gael mynediad “prydlon a theg” i’r brechlyn coronafeirws.
Ychwanegodd: “Mae 2020 wedi profi bod newid yn bosibl gydag ewyllys wleidyddol.
“Yn gynharach eleni, achubwyd cannoedd o fywydau drwy ddarparu llety brys i bobl sy’n cysgu ar y stryd i’w hamddiffyn rhag coronafeirws.
“Mae pobl sy’n profi digartrefedd yn dal i wynebu anghydraddoldebau iechyd enfawr a llawer o rwystrau i’w hatal rhag dod o hyd i gartref diogel.
“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i achub bywydau drwy sicrhau bod pobl sy’n ddigartref yn cael mynediad prydlon a theg i’r brechlyn coronafeirws a thrwy ddarparu’r tai fforddiadwy sydd eu hangen arnom i roi terfyn ar ddigartrefedd am byth.”