Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cyhoeddu bod cyfraddau ardrethi busnes wedi eu rhewi yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Gan na fydd cyfraddau busnes yng Nghymru yn destun cynnydd rhwng 2021-2022, gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd yn helpu i gefnogi tua 54,000 o dalwyr ardrethi ledled Cymru nad ydynt eisoes yn cael 100% o ryddhad ardrethi.

Amcangyfrif fod busnesau yng Nghymru wedi arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018-19.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi pecyn rhyddhad ardrethi gwerth £580 miliwn i ddarparu’r cymorth i fusnesau yn ystod y pandemig.

‘Rhoi sicrwydd i fusnesau’

Eglurodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru yn ystyried mesurau cymorth i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â’r pandemig.

“Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar fusnesau ac rydym yn parhau i ystyried y mesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith i helpu busnesau i ymdopi ag effaith economaidd pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i fusnesau na fyddant yn gweld cynnydd yn eu hardrethi busnes y flwyddyn nesaf.”