Wrth i drafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd barhau ym Mrwsel, daw adroddiadau y gallai cynnydd dros y dyddiau diwethaf arwain at gytundeb yr wythnos hon.
Mae’n debyg bod prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi dweud wrth ddiplomyddion fod y Deyrnas Unedig wedi symud tuag at ofynion y bloc ar y maes chwarae gwastad, yn ôl y Daily Telegraph.
Adroddodd The Guardian fod llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen wedi dweud bod “symudiad” wedi bod a bod trafodaethau “ar y filltir olaf un”.
Fe wnaeth Michel Barnier ddiweddaru diplomyddion o 27 o wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd am y cynnydd cyn ailddechrau trafodaethau gyda’i Arglwydd Frost ddydd Llun (Rhagfyr 14).
Ers misoedd, mae’r trafodaethau wedi cael eu dal yn ôl gan faterion hawliau pysgota, y “maes chwarae gwastad” i sicrhau na all y naill ochr na’r llall gystadlu’n annheg â’r llall ar safonau amgylcheddol, hawliau gweithwyr na chymorthdaliadau’r wladwriaeth, a’r mecanweithiau cyfreithiol i lywodraethu unrhyw gytundeb.
“Dyddiau nesaf” yn bwysig
Dywedodd Michel Barnier fod y “dyddiau nesaf” yn bwysig os yw cytundeb i fod ar waith ar gyfer Ionawr 1.
“Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi pob cyfle i’r trafodaethau lwyddo,” meddai.
“Ni chafodd cytundeb mor gynhwysfawr (masnach, ynni, pysgodfeydd, trafnidiaeth, yr heddlu a chydweithrediad barnwrol ac ati) ei drafod mor dryloyw ac mewn cyn lleied o amser.”
Mae trefniadau masnachu presennol y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben ar ddiwedd y mis, sy’n golygu y byddai’n rhaid i unrhyw gytundeb newydd fod ar waith erbyn Ionawr 1.
Os na, bydd tariffau a chwotâu yn dod i rym a bydd biwrocratiaeth yn cynyddu, gan achosi niwed pellach i economi sydd eisoes wedi’i tharo gan y coronafeirws.
Mae’r angen i unrhyw gytundeb gael ei gymeradwyo gan y Senedd yn golygu na all trafodaethau barhau tan Nos Galan, ond mae Aelodau Seneddol wedi’u paratoi ar gyfer y posibilrwydd o eistedd dros gyfnod y Nadolig.