Mae ysbytai yng Nghymru bron yn llawn oherwydd ymchwydd yn nifer y cleifion â’r coronafeirws, meddai cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru.
Rhybuddiodd Darren Hughes y gallai mwy o ysbytai ledled y wlad atal gofal nad yw’n ofal brys yn fuan, ar ôl i ddau fwrdd iechyd ddweud eu bod yn gwneud hynny mewn ymateb i gynnydd mawr yn nifer yr achosion.
Daeth y rhybudd wrth i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddweud bod mwy na 14,000 o achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, tra bod ymgynghorydd gofal dwys wedi galw am beidio â l lacio’r rheolau dros y Nadolig a rhoi’r wlad dan glo ar unwaith.
Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd Mr Hughes fod llawer o ysbytai “yn agos at eu capasiti”, gan effeithio ar eu gallu i drin cleifion â phroblemau iechyd nad ydynt yn rhai brys.
Dywedodd: “Rwyf wedi dweud droeon nad oes neb yn y GIG am i hyn fod yn wir, ond os oes gennym nifer cynyddol o gleifion â’r coronafeirws, efallai nad oes gennym y gallu i drin materion iechyd eraill nad ydynt yn rhai brys.
“Mae ein capasiti nid yn unig yn ymwneud â nifer y gwelyau sydd ar gael i ni ond hefyd mae’n ymwneud â’n staff. Os yw trosglwyddo cymunedol yn uchel, mae mwy o staff yn mynd i ffwrdd yn sâl neu’n gorfod hunanynysu.
“Gofynnwn i bawb yn y cyfnod cyn y Nadolig leihau eich cysylltiadau cymdeithasol gymaint â phosibl. Rydym am i bawb yng Nghymru allu cael Nadolig hapus a diogel, ac os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd gallwn ostwng cyfraddau achosion a chael mwy o sicrwydd bod Nadolig diogel yn bosibl.”
Ddydd Llun, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod yn gohirio rhai llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a’r holl apwyntiadau wyneb yn wyneb nad ydynt yn hanfodol ym mhob un o’i safleoedd i ryddhau gwelyau.
Fe fe ohiriodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n cwmpasu Casnewydd a Chaerffili, dwy ardal sydd yn y chwech uchaf o ran y gyfradd achosion, yr holl ofal nad oedd yn ofal brys ddydd Sadwrn.
Dileu’r Nadolig?
Dywedodd un o ymgynghorwyr gofal dwys y bwrdd iechyd, Ami Jones, ddydd Llun y dylai Cymru fynd dan glo nawr a “dileu’r Nadolig” i achub bywydau.
Dywedodd wrth ITV Cymru: “Mae cryn dipyn ohonom yn teimlo y byddai’n well – er mor amhoblogaidd ydyw – symud at gyfyngiadau nawr.
“Dw i wir yn poeni am y Nadolig. Dw i yn poeni’n fawr am bobl yn cymryd y risgiau oherwydd eu bod am weld teulu a goblygiadau’r holl swigod newydd o bobl yn cymysgu a’r cynnydd yn y niferoedd y bydd hynny yn eu hachosi.
“Mae angen i ni wneud rhywbeth. Rwy’n credu y byddai’n well gan lawer ohonom wel [clo] yn ddigwydd nawr a dileu’r Nadolig ond rwy’n deall y byddai’n amhoblogaidd dros ben.”
Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Gething fod atal y GIG yng Nghymru rhag cael ei lethu “yn nwylo pob un ohonom” cyn llacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig.
Dywedodd nad dewis Llywodraeth Cymru fyddai newid y trefniadau i lacio’r cyfyngiadau rhwng 23 a 27 Rhagfyr, ond ychwanegodd: “Os yw’r feirws yn parhau i dyfu, yna bydd angen i ni wneud dewisiadau i gadw pobl yn ddiogel.”
Mae pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar y cyd i lacio rheolau am bum niwrnod er mwyn caniatáu i hyd at dair aelwyd wahanol gymysgu â’i gilydd.
Ond fe wnaeth Mr Gething wadu bod Llywodraeth Cymru yn anfon negeseuon cymysglyd i’r cyhoedd drwy ofyn iddyn nhw “beidio â chymysgu gyda phobl nad ydych chi’n byw gyda nhw”, ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud ddydd Gwener ei fod yn bwriadu defnyddio’r rheol i gyfarfod â phobl o’r tu allan i’w gartref ei hun.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl feddwl am yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud. Sut allwch chi leihau eich lefelau cyswllt mor isel â phosib,” meddai Mr Gething.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd rhai pobl serch hynny yn mynd i’r eithaf a thu hwnt. Felly, yn anffodus, rydyn ni’n disgwyl cynnydd mewn achosion ar ôl y Nadolig.”
Dywedodd Mr Gething mai’r penwythnos blaenorol oedd y prysuraf o’r flwyddyn i’r GIG, gyda chapasiti ysbytai yn cael ei ddefnyddio’n rhannol gan gannoedd o bobl yn gwella o Covid-19 am eu bod yn dal i brofi’n bositif wythnosau yn ddiweddarach er nad oeddent yn heintus mwyach.