Mae cynrychiolwyr o bedair llywodraeth Prydain wedi cyfarfod i drafod mesurau a gafodd eu cytuno ar y cyd ganddyn nhw i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws dros y Nadolig.

Fe fu’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn trafod y sefyllfa ddiweddaraf gydag arweinwyr yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Michael Gove, Gweinidog Swyddfa Cabinet y Deyrnas Unedig, heddiw (dydd Mawrth 15 Rhagfyr).

Deellir mai’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yw lleihau nifer y dyddiau o lacio dros y Nadolig neu gyfyngu ar nifer y bobl a ganiateir.

Fe fydd rhagor o drafodaethau rhwng y pedair llywodraeth yfory, gyda phenderfyniad i ddilyn.

Cefndir

Fe ddigwyddodd y cyfarfod ar ôl i ddau gylchgrawn meddygol rybuddio y bydd llacio’r cyfyngiadau fel hyn yn “costio llawer o fywydau”.

Mae arolwg barn sydd newydd ei gyhoeddi hefyd yn awgrymu bod y mwyafrif o bobl Prydain yn erbyn llacio’r rheolau. Yn arolwg YouGov o 3,856 o oedolion, roedd 57% yn credu y dylai’r llywodraethau gefnu ar eu bwriad i lacio’r rheolau, ac y dylai’r cyfyngiadau presennol aros mewn grym dros yr Wyl. Roedd 31% yn dweud y dylai’r llacio ddigwydd yn unol â’r cynlluniau, a dywedodd 12% eu bod yn ansicr.

Yn gynharach y pnawn yma, dywedodd Mark Drakeford  y byddai’n gyndyn o “droi ei gefn” ar y cytundeb mewn ateb i gwestiwn gan weinidog iechyd cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies yn y senedd.

Dywedodd Mr Drakeford: “Cafodd y cytundeb pedair gwlad dros y Nadolig ei drafod yn fanwl dros bedwar cyfarfod gwahanol rhwng y pedair gwlad.

“Roedd yn un caled i’w sicrhau. Byddai ddim yn troi fy nghefn arno ar chwarae bach.

‘Dewis hynod o anodd’

“Rwy’n cael cyfarfod yn ddiweddarach heddiw gyda Phrif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Michael Gove fel y gweinidog sy’n gyfrifol am Swyddfa’r Cabinet, mae’n siŵr y bydd y mater hwn yn cael ei drafod.

“Mae pobol sy’n byw’n gyfan gwbl ar eu pennau eu hunain, sydd wedi gwneud trefniadau i fod gyda phobl am y tro cyntaf, yn dweud wrthyf mai dyma’r unig beth y maen nhw wedi gallu edrych ymlaen ac iddo yn yr wythnosau diwethaf.

“Ac eto, rydym yn gwybod, os nad yw pobl yn defnyddio’r rhyddid ychwanegol sydd ar gael yn gyfrifol, yna byddwn yn gweld effaith hynny ar ein gwasanaeth iechyd sydd eisoes dan bwysau.

“Rwy’n credu bod y dewis yn un hynod o anodd. Ar hyn o bryd mae gennym gytundeb pedair gwlad. Byddaf yn trafod hynny’n ddiweddarach heddiw, byddwn yn edrych ar y ffigurau eto gyda’n gilydd.”