Mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws yng Nghaerdydd, mae canolfannau profi newydd yn cael eu hagor yno.

Mae cyfraddau heintio coronafeirws yn y Brifddinas ar eu huchaf ac wedi tyfu 90% yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod cyfradd profion positif y ddinas, sef 18%, yn dangos ei bod yn “glir bod y feirws yn lledaenu drwy’r gymuned, gan ei gwneud hi’n anodd iawn ei reoli”.

Bydd safleoedd profion lleol ychwanegol yn agor ym maes parcio Ely, hen Ganolfan Feddygol Parkview ddydd Mercher (Rhagfyr 16), ac ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd ddydd Iau (Rhagfyr 17).

Nid yw lleoliadau safleoedd profion lleol ychwanegol a allai fod ar gael ym mis Ionawr wedi’u cadarnhau eto.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas y dylai trigolion archebu prawf os ydyn nhw’n teimlo’n sâl neu’n arddangos unrhyw un o’r symptomau sy’n gysylltiedig â’r feirws.

Dywedodd: “Rwyf am fod yn glir bod digon o gapasiti yn y system, ac ni fu erioed yn haws cael prawf.

“Os ydych chi’n dangos symptomau neu’n amau efallai bod gennych Covid-19, yna mae’n ddyletswydd arnoch chi eich hun a’ch anwyliaid i gael prawf eich hun cyn gynted â phosibl.”

Ychwanegodd: “Rydym nawr mewn sefyllfa lle mae’r cynnydd yn y niferoedd yn llym. Os na fyddwn yn dilyn y rheolau, gallai ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau gael eu llethu erbyn y Nadolig.

“Mae’r rhagolygon presennol yn enbyd.”

Dywedodd Huw Thomas fod bron i 16,000 o achosion wedi’u cadarnhau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gydag 11 o bobol mewn unedau gofal dwys ar hyn o bryd a 278 o staff meddygol a nyrsio yn methu gweithio am eu bod yn hunan-ynysu.

Ychwanegodd bod nifer fawr o heddweision hefyd yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â’r feirws.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai Caerdydd oedd â’r 10fed cyfradd achosion gwaethaf yng Nghymru yn y saith diwrnod hyd at fis Rhagfyr 10, gyda 450.8 fesul 100,000 o bobol.