Mae pwysau’n cynyddu ar y Llywodraethau’r Deyrnas Unedig i ailfeddwl am lacio cyfyngiadau’r coronafeirws dros gyfnod y Nadolig wedi i ddau gylchgrawn meddygol rybuddio y bydd yn “costio llawer o fywydau”.

Cytunodd pedair llywodraeth y Deyrnas i gydweithio ar strategaeth gyffredin dros y Nadolig.

Bydd y canlynol mewn grym rhwng Rhagfyr 23-27:

  • Llacio’r cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gwlad a’r haenau.
  • Gall aelodau o hyd at dair aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen er mwyn cyfarfod yn ystod y cyfnod hwn. All aelodau’r swigen ddim newid yn ystod y cyfnod hwn.
  • Gall pob swigen gyfarfod yn y cartref, mewn addoldy neu yn yr awyr agored, ond bydd cyfyngiadau llymach ar letygarwch mewn lleoliadau eraill yn parhau.

Mewn erthygl olygyddol ar y cyd, galwodd y British Medical Journal and Health Service Journal am ddileu’r penderfyniad i lacio mesurau ymbellhau cymdeithasol dros gyfnod yr ŵyl.

Yn ôl yr erthygl mae’r Llywodraeth “ar fin gwneud camgymeriad mawr arall a fydd yn costio llawer o fywydau”.

Dywedodd y rhybudd golygyddol ar y cyd, a ysgrifennwyd gan olygydd HSJ Alastair McLellan a phrif olygydd BMJ Fiona Godlee: “Pan ddyfeisiodd y Llywodraeth y cynlluniau presennol i ganiatáu cymysgu cartrefi dros y Nadolig roedd wedi tybio y byddai pwysau’r coronafeirws ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gostwng.

“Ond nid yw hynny’n wir, mae’n codi, ac mae ymddangosiad math newydd o’r feirws wedi cyflwyno perygl posibl pellach.

“Dylai aelodau o’r cyhoedd liniaru effaith y drydedd don drwy fod mor ofalus â phosibl dros y misoedd nesaf. Ond bydd llawer yn gweld codi cyfyngiadau dros y Nadolig fel caniatâd i beidio bod y ofalus.

“Dylai’r penderfyniad i ganiatáu cymysgu cartrefi a theithio ar draws y pedair gwlad a’r haenau dros gyfnod pum niwrnod y Nadolig gael ei wrthdroi er mwyn gostwng y niferoedd cyn trydedd don debygol.”

Dywedodd David Nabarro, cennad arbennig Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) sy’n gweithio ar Covid-19, y gallai pris llacio o’r fath “fod yn uchel iawn”.

Gan annog pobl i feddwl yn ofalus am eu cynlluniau, dywedodd wrth Times Radio: “Gofynnwch i chi’ch hun, a oes unrhyw ffordd allwch chi beidio cael y teulu i ddod at ei gilydd eleni?

“Mae’n llawer gwell peidio â’i wneud pan mae’r math yma o firws o gwmpas.”