Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ysgrifennu at Mark Drakeford i gynnig “cymorth” gan ysbytai yn Lloegr os na fydd ysbytai Cymru yn gallu trin cleifion nad ydynt yn gleifion Covid.

Golyga hyn y gallai cleifion sydd yn dioddef o’r coronafeirws gael eu symud i ysbytai yn Lloegr i leddfu’r pwysau ar ysbytai yng Nghymru.

Fodd bynnag mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Matt Hancock wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio’r sefyllfa i’w mantais eu hunain.

Mae’r gweinidogion wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn cynnig cefnogaeth i fyrddau iechyd Cymru ac wedi dweud bod y fyddin ar gael i gynorthwyo.

Y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Matt Hancock i Mark Drakeford

“Dydy Covid-19 ddim yn parchu ffiniau gwleidyddol na gweinyddol,” meddai’r ddau yn y llythyr.

“Yn hytrach, mae’n dilyn y llwybr daearyddol y mae pobol yn eu dilyn, rydym yn gwybod fod hyn yn fater pwysig i lawer sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

“Rydym yn ymwybodol bod byrddau iechyd ledled Cymru yn ystyried atal triniaethau ac apwyntiadau nad ydynt yn rhai Covid (gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hystyried yn rhai brys) i ddelio â’r pandemig.

“Rydym yn barod felly i gefnogi ysbytai Cymru drwy gynnig cymorth i gleifion dros y ffin lle mae angen oherwydd straen ar y ddarpariaeth gofal iechyd.”

Mae cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru eisoes wedi rhybuddio fod ysbytai yng Nghymru bron yn llawn oherwydd ymchwydd yn nifer y cleifion â’r coronafeirws.

‘Ymgais druenus i sgorio pwyntiau gwleidyddol’ 

Fodd bynnag mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Lee Waters wedi disgrifio llythyr Simon Hart a Matt Hancock fel ‘ymgais druenus i sgorio pwyntiau gwleidyddol’.

Eglurodd fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio yn barod, ac nad oedd angen rhannu hynny ar wefannau cymdeithasol.