Mae amrywiolyn newydd o’r Coronafeirws sydd wedi’i ganfod mewn rhai rhannau o Loegr hefyd yn bresennol yng Nghymru.
Ddydd Llun (Rhagfyr 14) daeth i’r amlwg fod o leiaf 60 o wahanol awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cofnodi heintiau Covid-19 a achoswyd gan yr amrywiolyn newydd.
Er mai 10 achos sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi – mae mwy na 1,000 o achosion wedi’u cofnodi yn Lloegr.
‘Naturiol’
Eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod hi’n “naturiol” i feirws newid dros amser ac y bydd ystod o amrywiadau yw gweld yng Nghymru.
“O ran yr amrywiad penodol hwn, rydym wedi nodi 10 achos pendant a phum achos tebygol trwy ymchwil a ddigwyddodd yn ystod mis Tachwedd,” meddai.
“Mae ymchwil pellach ar y gweill ac rydym yn disgwyl nodi achosion pellach.”
Mae gwyddonwyr y Deyrnas Unedig wedi dechrau astudiaethau manwl ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael gwybod am yr amrywiolyn newydd.
“Bydd ein canfyddiadau yn bwydo i’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd y llefarydd.
Daw’r newyddion am yr amrywiad newydd wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud y gallai cyfnod clo arall gael ei gyflwyno ar ôl y Nadolig.