Mae’r cwmni cludo nwyddau, Mansel Davies, wedi cael ei drwydded wedi’i dirymu am ffugio cofnodion cynnal a chadw i gerbydau.

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i’r cwmni bledio’n euog i 19 cyhuddiad o ffugio dogfennau yn ôl ym mis Medi 2019.

Canfu’r ymchwiliad fod pedwar gyrrwr wedi gwneud cofnodion tacograff ffug (dyfais sy’n cofnodi cyflymder a phellter cerbyd yn awtomatig) rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2017, ac wedyn fod y cwmni wedi cynhyrchu taflenni archwilio cynnal a chadw ffug ar gyfer cerbydau’r cwmni.

Canfu’r ymchwiliad fod Mansel Davies & Son Ltd yn gwybod eu bod yn “gweithredu cerbydau anniogel”, gydag un cyfarwyddwr yn “gorchymyn aelod iau o staff i ffugio dogfennau i geisio celu hyn”.

Dywedodd yr ymchwiliad fod yr ymddygiad hwn “ar ben uchaf graddfa diffyg cydymffurfio ac yn cyfiawnhau anghymhwyso am gyfod amhenodol”.

Adroddiad damniol

Mewn adroddiad ysgrifenedig gan Nicholas Denton, y Comisiynydd Traffig, dywedwyd na ellid adfer enw da’r cwmni yn sgil ei ymddygiad wrth fethu â chynnal a chadw ei fflyd o lorïau.

Dywedodd yr adroddiad: “Nid wyf yn credu y byddai’r cyhoedd yn deall bod trwydded Mansel Davies & Son Ltd yn cael ei dirymu oherwydd y camarfer helaeth a ddisgrifir uchod, dim ond i drwydded yna gael ei rhoi i Mansel Davies & Son Group Ltd i weithredu’r un cerbydau yn yr un lifrai o’r un ganolfan weithredu.”

Ychwanegodd: “Rwy’n credu y byddai dechrau newydd yn fwy real a gweladwy i gwsmeriaid, gweithwyr, y cyhoedd a’r rheoleiddiwr pe bai’r grŵp yn newid ei enw fel nad oedd yr enw Mansel Davies yn ymddangos mwyach.

“Mae dulliau [y cwmni] wedi rhoi ei weithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl, yn ogystal â bod yn gystadleuaeth hynod annheg yn erbyn y cludwyr hynny sydd â chyfundrefnau cynnal a chadw sy’n cydymffurfio.

“Mae’r achos o dorri ymddiriedaeth gan y cwmni mor fawr, ac mae’r cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol mor gyndyn i dderbyn cyfrifoldeb, na allaf, gan edrych ar record gyffredinol y cwmni, fod yn hyderus y bydd yn cydymffurfio yn y dyfodol.”

Nodwyd bod “hyd a lled y camarfer cynnal a chadw – a adlewyrchwyd yn y ddirwy uchaf erioed a osodwyd gan y llys – mor ddifrifol fel ei fod o fwy o bwys na gwelliannau mwy diweddar a’r cyfarwyddwyr newydd, mwy galluog a mwy moesegol.”

Bydd trwydded Mansel Davies & Son Ltd yn cael ei dirymu’n swyddogol un funud ar ôl hanner nos ar 1 Chwefror 2021.