Mae ‘llwybr cul’ at gytundeb rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ar gytundeb masnach, ond mae dadleuon ynghylch hawliau pysgota yn parhau, yn ôl Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen.
Dywed fod cynnydd wedi cael ei wneud ar fesurau i rwystro cystadlu annheg rhwng y ddwy ochr trwy dorri safonau neu ddefnyddio cymorthdaliadau’r wladwriaeth.
Mae disgwyl i’r dyddiau nesaf fod yn rhai “tyngedfennol” wrth i ddiwedd y mis a’r flwyddyn nesáu, pryd y daw y trefniadau pontio presennol i ben.
“Mae’r cloc yn ein rhoi ni i gyd mewn sefyllfa anodd iawn,” meddai.
Os bydd rhyw fath o gytundeb, mae trefniadau ar droed i senedd Prydain allu ei drafod yn y dyddiau sy’n arwain at y Nadolig. Yn ôl Arweinydd Ty’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, byddai modd rhuthro’r mesur trwy Dy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi yn gyflym iawn os bydd angen.