Mae Gweinidog Pontio Ewropeaidd Cymru wedi galw ar i Lywodraeth San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd “ddangos hyblygrwydd” yn eu trafodaethau Brexit.

Mae’r ddwy ochr yn parhau a’u hymdrechion i daro dêl masnach, ac mae yna rywfaint o obaith y bydd y trafodaethau yn dwyn ffrwyth mewn da bryd.

Â’r cyfnod pontio yn prysur ddod i ben, mae lawer yn teimlo y dylid fod wedi taro’r ddêl yn barod, ac mae’r gweinidog, Jeremy Miles, ymhlith y bobol rheiny.

Yn siarad gerbron y Senedd brynhawn ddoe, dywedodd bod y sefyllfa yn “gwbl annerbyniol”.

“Heddiw, dw i’n galw unwaith eto ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddangos yr hyblygrwydd a’r cyfaddawdu sydd eu hangen er myn dod i gytundeb,” meddai.

“Rydym yn byw mewn byd o gyd-ddibyniaeth, nid annibyniaeth. Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn y ffaith bod bod yn rhan o ddêl masnach, wrth reswm, yn cyfyngu ar sofraniaeth.

“Dyma’r realiti er mwyn sicrhau’r mynediad llawnaf posib i farchnadoedd ar gyfer nwyddau domestig a gwasanaethau, ac er mwyn osgoi prisiau uwch ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Yr Undeb Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf o bell ffordd.”

Pryderon am “anhrefn”

Wrth annerch Aelodau o’r Senedd dywedodd mai’r “flaenoriaeth heb os” yw sicrhau nad yw’r cyfnod pontio yn dod i ben heb fod cytundeb.

A dywedodd y byddai’r Deyrnas Unedig yn profi “anhrefn tymor byr a difrod hir dymor” pe bai hynny’n digwydd.

Ategodd y byddai gadael heb ddêl yn “fethiant hanesyddol” gan Lywodraeth San Steffan.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan fel eu bod yn taro dêl, meddai, a rhannodd ei deimladau cymysg am y sefyllfa.

“Ni ddylwn ystyried y ddêl sydd ar y bwrdd yn llwyddiant,” meddai. “Mae yna ddiffyg uchelgais, ac mae’n wahanol iawn i’r ddêl y bydden ni wedi ei hoffi.

“Fodd bynnag, byddai’n osgoi rhai o’r goblygiadau gwaethaf a fyddai’n codi yn pe bai’r cyfnod pontio yn dod i ben heb ddêl a heb drefn.”

Brexit hyd yma

Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, a bu iddi adael yr undeb ar Ionawr 31, 2020.

Dros yr 11 mis diwetha’ mae rheolau Ewropeaidd wedi parhau i fod mewn grym ym Mhrydain wrth i’r ddwy ochr geisio dod i gytundeb ynghylch trefniadau masnach y dyfodol.

Y cyfnod pontio yw enw’r cyfnod yma, ac mae disgwyl y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael heb gytundeb pe na fyddai dêl yn cael ei tharo erbyn Rhagfyr 31, 2020.