Mae Donald Trump yn prysur golli cefnogaeth ei blaid ei hun i’w ymgais i herio canlyniad yr etholiad ar ôl i’r Coleg Etholiadol gadarnhau Joe Biden yn arlywydd ddydd Llun.

Daw hyn ar ôl i arweinydd y Gweriniaethwyr yn y Senedd, Mitch McConnell, longyfarch Joe Biden am y tro cyntaf ddoe. Mae hefyd yn rhybuddio’i gyd-seneddwyr Gweriniaethol yn erbyn cefnogi Donald Trump wrth iddo barhau i wrthod y canlyniad.

Mae Mitch McConnell wedi bod ymysg cefnogwyr mwyaf pybyr Donald Trump dros y pedair blynedd ddiwethaf.

“Roedd llawer ohonom wedi gobeithio y byddai’r etholiad arlywyddol yn cynhyrchu canlyniad gwahanol,” meddai wrth longyfarch Joe Biden yn y senedd ddoe.

“Ond mae gan ein system o lywodraeth y prosesau i benderfynu pwy fydd yn tyngu llw ar Ionawr 20. Mae’r Coleg Etholiadol wedi siarad.”

Wrth ymateb, dywedodd Joe Biden iddo ffonio Mitch McConnell i ddiolch iddo a bod y ddau wedi cael “sgwrs dda”.

Mae llawer o gyd-seneddwyr Mitch McConnell a oedd wedi aros yn dawel hyd yma bellach wedi dilyn ei esiampl a chydnabod canlyniad yr etholiad.

Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn dal i honni bod twyll wedi digwydd a bod Joe Biden wedi ennill ar gam.